Hanes

Mor agos ac eto mor bell

Er mai dim ond mewn rowndiau terfynol chwe phrif dwrnamaint mae Twrci wedi cystadlu ynddynt yn eu hanes rhyngwladol, maen nhw wedi llwyddo i gyrraedd rowndiau cynderfynol Cwpan y Byd 2002 ac Ewro 2008.

Mae’n anhygoel meddwl na lwyddodd y tîm i gymhwyso ar gyfer y twrnameintiau yn 1998, 2004, 2006, 2010 na 2012, gan wneud eu llwyddiant ar yr adegau prin iddynt gymhwyso yn fwy annisgwyl fyth.

Y rheolwr presennol, Şenol Güneş, oedd y rheolwr tu ôl i’w canlyniadau campus yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd 2002 yn Ne Korea a Japan. Cafodd ei benodi i’w gyfnod cyntaf wrth y llyw yn 2000, ac nid oedd llwyddiant yn beth diarth iddo ar ôl mwynhau gyrfa chwarae fel gôl-geidwad gyda Trabzonspor. Gan gyrraedd y gemau ail-gyfle wrth ddod yn ail i Sweden yng Ngrŵp 4, fe wnaeth gôl gan Okan Burak roi mantais 1-0 i Dwrci wedi’r cymal cyntaf yn erbyn Awstria yn Vienna, cyn buddugoliaeth gadarn 5-0 yn yr ail gymal yn Istanbul ychydig ddyddiau’n ddiweddarach i sicrhau eu lle yn y rowndiau terfynol.

Ar ôl colli’r gêm agoriadol 2-1 yn erbyn Brasil, daeth gêm gyfartal 1-1 gyda Costa Rica, ond diolch i goliau gan Hasan Şaş, Bülent Korkmaz ac Ümit Davala, llwyddon nhw i guro China PR 3-0- yng ngêm olaf y grŵp yn Seoul i symud i’r camau nesaf. Daeth buddugoliaethau 1-0 dros Japan a Senegal i ddilyn gan arwain at rownd gynderfynol yn erbyn enillwyr y twrnamaint yn y pen draw, Brasil. Sgoriodd Ronaldo ddechrau’r ail hanner i chwalu breuddwyd Twrci, ond fe hawlion nhw’r trydydd safle gyda buddugoliaeth 3-2 dros Dde Korea mewn gêm a welodd Hakan Şükür yn sgorio’r gôl gyflymaf yn hanes Cwpan y Byd ar ôl 10.8 eiliad.

Mae’r hyfforddwr chwedlonol o Dwrci, Fatih Terim, yn ei bedwerydd cyfnod fel rheolwr Galatasaray, ond yn ei ail gyfnod fel rheolwr y tîm cenedlaethol y llywiodd ei wlad i rownd gynderfynol Ewro 2008. Gyda’r twrnamaint yn cael ei chynnal yn Awstria a’r Swistir, collodd Twrci eu gêm grŵp gyntaf 2-0 i Bortiwgal yn Genefa. Ond daeth gôl fuddugol gan Arda Turan yn ystod amser anafiadau yn erbyn y Swistir yn yr ail gêm i roi buddugoliaeth 2-1 i Dwrci.

Daeth mwy o ddrama i ddilyn yn erbyn y Weriniaeth Tsiec wrth i ddwy gôl gan Nihat Kahveci yn y tri munud olaf sicrhau buddugoliaeth 3-2 a gwneud yn siŵr y byddai Twrci yn symud ymlaen o’r grŵp cyn eu gwrthwynebwyr. Yn y rownd nesaf, fe enillon nhw o giciau o’r smotyn yn erbyn Croatia gan arwain at rownd gynderfynol yn erbyn yr Almaen yn Basel. Y tro hwn, Twrci a fyddai’n dioddef gôl hwyr, wrth i gôl Philipp Lahm ar ôl 90 munud brofi’n dyngedfennol mewn colled 3-2.

 

Methodd Twrci â mynd heibio’r gemau grŵp yn Ewro 2016, eu hunig ymddangosiad yn y twrnamaint ers cyrraedd y pedwar terfynol yn 2008, a dydyn nhw heb gystadlu yng Nghwpan y Byd ers hawlio’r trydydd safle yn 2002. Er hynny, o dan arweiniad Güneş y gwnaeth Twrci sicrhau llwyddiant ar lwyfan y byd, ac mae’r hyfforddwr profiadol yn gwybod beth mae’n ei gymryd i lwyddo.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×