albania

Tri Talentog

Berat Djimsiti

Position Amddiffynnwr

Age 28

Height 191cm

Club Atalanta (Yr Eidal)

Berat Djimsiti

Er iddo gael ei eni yn Zurich a chynrychioli’r Swistir ar lefel ganolraddol, penderfynodd Djimsiti chwarae pêl-droed rhyngwladol ar y lefel uwch i Albania ym mis Gorffennaf 2015 ar ôl ennill dinasyddiaeth Albaniaidd flwyddyn ynghynt.

Ar ôl ymdangos bron i 100 o weithiau i glwb Zurich yn y Swistir, ymunodd Djimsiti ag Atalanta yn yr Eidal yn 2015, ac mae bellach wedi sefydlu ei hun yn y tîm ar ôl cyfnodau cychwynnol ar fenthyg yn Avellino a Benevento. Mae bellach wedi chwarae dros 100 o gemau i’r clwb, yn ddomestig ac yn Ewrop. Daeth ei unig gôl i Albania yn erbyn Armenia ym mis Hydref 2015, ond cafodd ei adael allan o garfan Ewro 2016.

Read More

Sokol Cikalleshi

Position Blaenwr

Age 30

Height 185cm

Club Konyaspor (Twrci)

Sokol Cikalleshi

Ergydiwr crwydrol sydd wedi chwarae i glybiau yn Albania, Croatia a Thwrci ac sydd wedi bod yn rhan reolaidd o garfan genedlaethol Albania ers ei gêm gyntaf yn erbyn Rwmania ym mis Mai 2014.

Er mai prin iawn y cafodd ei ddefnyddio yn ystod yr ymgyrch ragbrofol ar gyfer Cwpan y Byd FIFA 2018, fe ddaeth yn rhan reolaidd o’r garfan unwaith eto yn yr ymgyrch ragbrofol ar gyfer Ewro 2020 gan sgorio pedair gôl, cyn ychwanegu pedair gôl arall i’w gyfanswm cenedlaethol yng Nghynghrair Cenhedloedd UEFA y llynedd. Ar ôl blwyddyn lwyddiannus gyda chlwb Akhisar Belediyespor yn Nhwrci, symudodd Cikalleshi i Konyaspor yn 2020, ac mae wedi parhau i berfformio’n dda i’w glwb presennol.

Read More

Rey Manaj

Position Blaenwr

Age 24

Height 182cm

Club Barcelona (Sbaen)

Rey Manaj

Menaj yw’r gŵr cyntaf o Albania i ymuno â chewri Barcelona, ac eto mae dal i chwarae i’r tîm er iddo gael ei enwi ar y fainc y tymor diwethaf.

Ac yntau’n sgoriwr rheolaidd i dîm B Barcelona, mae’r ergydiwr wedi parhau i berfformio’n dda i’r tîm cenedlaethol mewn gemau diweddar. Cafodd ei fagu yn yr Eidal, ac fe gynrychiolodd Piacenza ar lefel ieuenctid cyn ymddangos ar y lefel uwch i Cremonese ac Inter Milan gyda chyfnodau ar fenthyg yn Pescara, Pisa a Granada yn Sbaen. Daeth trosglwyddiad parhaol i Albacete yn 2018 cyn i Barcelona ei ddenu ym mis Ionawr 2020.

Read More
Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×