BWRW GOLWG AR Y GWRTHWYNEBWYR

ALYAKSANDR KULCHY

Kulchy oedd Chwaraewr y Flwyddyn Belarws yn 2009, ac ef yw’r unig un yn hanes y tîm i chwarae dros gant o gemau.

Mae’n chwaraewr canol cae amddiffynnol amryddawn a dreuliodd y rhan fwyaf o’i yrfa chwarae yn Rwsia. Ond mae’r chwaraewr 48 oed bellach wedi dychwelyd i un o’i gyn-glybiau, Dynamo Moscow, i barhau â’i yrfa hyfforddi. Camodd i’r adwy i hyfforddi'r tîm cyntaf fel rheolwr dros dro, a Kulchy hefyd sy’n bennaf gyfrifol am y clwb sy’n bwydo’r tîm, FC Dynamo-2 Moscow.

Ganwyd yn ninas Gomel, Belarws ym 1973, a chwaraeodd i'r tîm cenedlaethol am y tro cyntaf pan drechwyd y tîm gan Dwrci o 3-2 yn Izmir ym mis Chwefror 1996. Roedd eisoes wedi cynrychioli ei wlad yn y tîm dan 21. Yn ystod yr 16 mlynedd ddilynol aeth yn ei flaen i sgorio pum gôl mewn 102 gêm, gan ddechrau gyda gôl yn erbyn Azerbaijan mewn gêm gyfeillgar ym mis Mai 1996. Sgoriodd ei unig gôl gystadleuol dros ei wlad ym mis Mawrth 2005 mewn gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Slofenia yng Nghwpan y Byd FIFA.

Yn ystod ei yrfa clwb, profodd Kulchy lwyddiant gyda thîm MPKC Mozyr, gan ennill y ddwy wobr ddomestig ym 1996 a sgorio 30 gôl mewn 86 gêm yn ystod ei dri thymor gyda’r clwb. Denodd ei berfformiadau sylw clwb Dynamo Moscow, ac ymunodd â'r clwb ym 1997. Daeth ei yrfa chwarae i ben yn 2013 gyda FC Irtysh Pavlodar yn Kazakhstan, ond yn ystod ei yrfa broffesiynol chwaraeodd dros 650 gemau gan hawlio ei le fel un o arwyr pêl-droed mwyaf Belarws.

Ond nid oedd gyrfa ryngwladol Kulchy yn un syml. Yn ôl y sôn, fe wnaeth anghydfod cyhoeddus rhwng Kulchy a Bernd Stange, y rheolwr o’r Almaen yn 2007 roi’r ergyd farwol i’w yrfa gyda’r tîm cenedlaethol. Gwrthododd chwarae mewn gêm gyfeillgar ryngwladol yn erbyn Israel yn ystod yr haf hwnnw, ac ni wnaeth Stange ddewis Kulchy ar gyfer y garfan nesaf ar ôl i’r tîm hawlio buddugoliaeth 2-1 hebddo. Ond ar ôl colli pedair gêm yn olynol ym mis Medi a mis Hydref y flwyddyn honno, fe aeth Stange ati i gymodi â seren y tîm ac wedi i Kulchy ddychwelyd, llwyddodd y tîm i sicrhau tair buddugoliaeth yn olynol yn erbyn Albania, yr Iseldiroedd a Gwlad yr Iâ.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×