HANES Y GWRTHWYNEBWYR

BELARWS A BLYNYDDOEDD BERND STANGES

Mae Bernd Stange yn un o feistri’r byd hyfforddi, a threuliodd bum degawd fel rheolwr ledled y byd. Dechreuodd ei yrfa yn 1970 pan gafodd ei benodi'n rheolwr tîm ieuenctid Carl Zeiss Jena yn ei famwlad, yr Almaen.

Dros y 49 mlynedd ddilynol, bu’n gyfrifol am glybiau yn yr Wcráin, Awstralia, yr Almaen a Chyprus, yn ogystal â threulio cyfnodau fel rheolwr tîm cenedlaethol Dwyrain yr Almaen, Oman, Irac, Belarws, Singapore a Syria. Ag yntau bellach yn 73, rhoddodd y cyn amddiffynnwr lled-broffesiynol y gorau i reoli yn 2019 ar ôl ennill dim ond un o’i saith gêm fel rheolwr tîm cenedlaethol Syria.

Ond, mae’n debyg y bydd Stage yn cael ei gofio am ei gyfnod fel rheolwr Belarws rhwng 2007 a 2011, cyfnod o lwyddiant cymharol. Yn ystod y cyfnod hwnnw gwelwyd perfformiadau gorau’r tîm yn ystod ymgyrchoedd rhagbrofol ar gyfer Ewro 2008 UEFA a Chwpan y Byd 2010 FIFA. Daeth y ddwy ymgyrch i ben mewn siom yn y pen draw, ond i dîm cenedlaethol sydd yn dal heb gyrraedd rowndiau terfynol twrnamaint mawr, fe sefydlodd Stange hunanhyder yn y tîm er mwyn profi bod sianelu eu doniau yn y ffordd iawn gyda’r meddylfryd cywir yn gallu arwain at ganlyniadau da.

Ar ôl cyfnod siomedig o dan ei ragflaenydd, Yuri Puntus, penodwyd Stange yn rheolwr ym mis Gorffennaf 2007 ar ôl gadael tîm Apollon Limassol yng Nghyprus. Gwnaeth argraff dda yn syth, trwy wneud newidiadau sylweddol i’r garfan a hyrwyddo chwaraewyr iau ar draul enwau mwy. Profodd ei strategaeth yn llwyddiant, ac fe hawliodd Belarws eu safle uchaf erioed ar restr y byd FIFA o dan ei arweiniad ym mis Chwefror 2011, safle 36.

Aeth Belarws yn eu blaen i hawlio pedair buddugoliaeth a gêm gyfartal yn ystod yr ymgyrch ragbrofol ar gyfer Ewro 2008, gan sgorio 17 gôl yn y broses, er i’r tîm orffen ymhell y tu ôl i enillwyr y grŵp Rwmania, yr Iseldiroedd a Bwlgaria. Ond roedd y canlyniadau a’r perfformiadau yn blatfform ar gyfer yr ymgyrch ragbrofol nesaf, a chafwyd pedair buddugoliaeth arall a gêm gyfartal o’u 10 gêm grŵp. Sgoriwyd pum gôl yn erbyn Kazakhstan ac Andorra. Lloegr a’r Wcráin a gymhwysodd ar gyfer rowndiau terfynol Cwpan y Byd 2010, gyda Belarws yn gorffen yn is na Croatia.

“Dwi’n poeni dim am hynny,” esboniodd Stange yn 2008 pan ofynnwyd iddo am sefyllfa wleidyddol Belarws ar y pryd. “Dwi’n rheolwr cenedlaethol ar wlad â ganddi draddodiad pêl-droed pwysig. Dyna’r oll sy’n cyfrif. Mae fy amodau gweithio cystal ag y buon nhw erioed yn fy ngyrfa hir mewn pêl-droed. Does ’na ddim trosedd yma. Yn Jena mae'n rhaid i mi hebrwng fy ngwraig o'r sinema gyda'r nos. Ond yma, gall merched grwydro yn y parc gyda'r nos.”

Roedd buddugoliaeth gofiadwy 1-0 yn erbyn Ffrainc ym Mharis yn ddigwyddiad arwyddocaol i’r tîm yn y gêm ragbrofol ar gyfer Ewro 2012 ym mis Medi 2010. Daeth dwy gêm gyfartal syfrdanol i ddilyn yn erbyn Rwmania a Ffrainc ym Minsk y mis Mehefin canlynol. Roedd y canlyniadau hyn yn dyst i'r strategaeth hirdymor yr oedd Stange wedi'i rhoi ar waith yn ystod ei gyfnod gyda thîm cenedlaethol Belarws. Ond methodd Belarws â chymryd mantais o’r cenhedloedd llai, gan golli pwyntiau yn erbyn Lwcsembwrg ac Albania, a methu â chymhwyso unwaith yn rhagor. Rhoddodd Stange orau i’w swydd yn dilyn yr ymgyrch.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×