GEMAU GWYCH

Cymru 2-1 Yr Eidal

Ar gyfer y rhifyn ‘Gemau Gwych’ hwn, rydym ni’n bwrw golwg ar ddeg o gyn reolwyr Cymru, a’r gemau sy’n aros yn y cof o’u cyfnodau wrth y llyw. Dyma barhau â’r gyfres trwy ddwyn i gof noson fythgofiadwy yn erbyn yr Eidal yng Nghaerdydd gyda Mark Hughes wrth y llyw.

Cymru 2-1 Yr Eidal - 16 Hydref 2002 - Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd.

Cymru XI: Jones (gôl-geidwad), Delaney, Gabbidon, Melville, Davies, Giggs, Pembridge, Savage, Speed, Bellamy (Blake 90), Hartson.

Goliau: Davies (11), Bellamy (70).

Roedd torf lawn yn bresennol i weld y fuddugoliaeth gofiadwy hon wrth i Craig Bellamy sgorio’r gôl dyngedfennol ar ôl 70 munud yng ngemau rhagbrofol Ewro 2004 UEFA yng Nghaerdydd. Â’r Eidal dan reolaeth y profiadol Giovanni Trapattoni, roedd eu chwaraewyr yn rhan o genhedlaeth euraidd ym mhêl-droed yr Eidal, a daeth y sêr i Gaerdydd yn disgwyl gadael gyda thri phwynt. Ond perfformiodd Cymru yn eithriadol ar y noson, ac mae’r gêm yn aros yn y cof fel un o'r canlyniadau mwyaf arwyddocaol yn hanes y tîm cenedlaethol.

Ymhlith y sêr a oedd yn dechrau i’r Eidal roedd y gôl-geidwad Gianluigi Buffon, Fabio Cannavaro, Alessandro Nesta, Christian Panucci, Alessandro Del Piero ac Andrea Pirlo, ond Simon Davies sgoriodd gyntaf, a hynny i Gymru ar ôl cwta 11 munud. Hon oedd ei drydedd gôl ryngwladol mewn 3 gêm. Ond sgoriodd Del Piero i ddod â’r Eidalwyr yn gyfartal ar ôl 32 munud, pan fownsiodd ei gic rydd oddi ar ben yr amddiffynnwr Mark Delaney a thros y gôl geidwad Paul Jones.

Ond roedd yr uchafbwynt eto i ddod, a chydag 20 munud yn weddill heriodd John Hartson amddiffyn yr Eidal gyda phas berffaith i Bellamy. Rheolodd Bellamy’r bêl yn arbennig, a’i chario heibio i Buffon gan beri i’r dorf fynd yn wyllt wrth iddo ergydio am y rhwyd wag. Gyda Mark Hughes yn ysgogi’r tîm o’r cyrion ym munudau olaf y gêm, fe wnaeth y cefnogwyr brwd a oedd yn awchu am fuddugoliaeth roi hwb enfawr i’r chwaraewyr. Aeth Cymru â’r maen i’r wal gan hawlio pob un o’r pwyntiau, ac aeth y dathliadau yn eu blaen yn hwyr i’r nos.

Gan adeiladu ar y fuddugoliaeth 2-0 yn erbyn y Ffindir y mis blaenorol, roedd Hughes yn awyddus i fod yn bwyllog. “Roedd o’n berfformiad da ac rydan ni wrth ein bodd,” esboniodd. “Roedd angen dechrau da arnom ni, a dyna ni wedi cael hynny. Maen nhw'n hogiau gwych i weithio gyda nhw. Nawr mae angen inni gadw i fynd – mae un gêm arall o’r neilltu. Rydyn ni’n ymwybodol iawn ei fod yn beth da cael y pwyntiau hynny wrth gefn, ond fedrwn ni ddim mynd i lefydd fel Azerbaijan a gwneud camgymeriadau."

Ac fe wrandawodd Cymru ar sylwadau Mark Hughes, gan orffen yn ail y tu ôl i’r Eidal i gymhwyso ar gyfer y gemau ail gyfle. Ond byddai’r ymgyrch yn dod i ben mewn rhwystredigaeth a siom wrth i’r tîm fethu â manteisio ar gêm gyfartal 0-0 yn erbyn Rwsia ym Moscow. Gyda thorf lawn arall yn gefnogaeth yn Stadiwm y Mileniwm ar gyfer yr ail gymal, roedd yn ymddangos ar un pwynt y gallai Cymru ei gwneud hi. Ond colli 1-0 oedd eu hanes, a’r freuddwyd o gyrraedd rowndiau terfynol yr Ewros wedi’i chwalu. Gadawodd Hughes ei swydd y flwyddyn ganlynol i gymryd yr awenau gyda Blackburn Rovers.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×