GEMAU GWYCH

Cymru 3-1 Gwlad Belg

Ar gyfer y rhifyn ‘Gemau Gwych’ hwn, rydym ni’n bwrw golwg ar ddeg o gyn reolwyr Cymru, a’r gemau sy’n aros yn y cof o’u cyfnodau wrth y llyw. Pa well ffordd i orffen na gyda Chris Coleman, a’r gêm fythgofiadwy honno yn rownd yr wyth olaf Ewro 2016.

Cymru 3-1 Gwlad Belg - 1 Gorffennaf 2016 - Stade Pierre-Mauroy, Ffrainc.

Cymru XI: Hennessey (gôl-geidwad), Chester, Gunter, Williams (Capten), Davies, Taylor, Bale, Allen, Ledley (King 78), Ramsey (Collins 90), Robson-Kanu (Vokes 80).

Goliau: Williams (30), Robson-Kanu (55), Vokes (86).

“Roedd Gwlad Belg yn ein ’nabod ni,” esboniodd Chris Coleman wrth UEFA.TV wrth adlewyrchu ar y gêm yr haf diwethaf. “Ac roedden ni’n eu ’nabod nhw hefyd. Dwi’n credu bod y cyhoedd yng Ngwlad Belg wedi bod yn eithaf hyderus o ganfod eu bod yn wynebu Cymru yn rownd yr wyth olaf, ond dwi’n credu pe baech chi wedi holi chwaraewyr Gwlad Belg, y bydden nhw fymryn yn fwy gofalus, gan eu bod nhw’n gwybod ein bod ni’n benderfynol. Fesul gêm, daeth y chwaraewyr yn fwy hyderus yn eu hunain ac yn ei gilydd. O’r herwydd, ni fyddai wedi gwneud fawr o wahaniaeth wynebu Gwlad Belg nag unrhyw wlad arall.

“Roedd y pwyslais ar gael y pellter iawn o bersbectif amddiffynnol, o'r olwyr i'r blaenwyr, gan sicrhau nad oedd y pellter yn ddigon mawr i Wlad Belg allu chwarae o amgylch ein canol cae. Felly fe lenwon ni’r gofod hwnnw, ac ar ganol y cae roedd Aaron [Ramsey], Joe Allen, Joe Ledley a [Gareth] Bale. Roedd mwy ohonom ni nag oedd ohonyn nhw ar ganol y cae, ac roedd hynny’n fanteisiol i ni. Ar ôl iddyn nhw sgorio, fe redon ni’r gêm o ganol y cae mewn gwirionedd, felly doedd dim byd i’w newid. Roedden nhw’n cyfnewid yn dda iawn, a dyna oedd yn pennu’r gêm i ni mewn gwirionedd.”

Ar ôl ildio gôl Radja Nainggolan, y capten Ashley Williams a ddaeth i’r adwy. “Roedd Ash wedi bod yn dod yn agos yn yr ymgyrch,” ychwanegodd Coleman. “A bod yn deg, roedd yn gwneud yn dda iawn. Pan sgoriodd y gôl, roedd o’n ei haeddu oherwydd ei berfformiad a'i feddylfryd tuag at y grŵp. Mae'n arweinydd anhygoel o'r radd flaenaf, ac roeddwn i mor falch ohono pan sgoriodd y gôl. Roedden ni wedi bod yn hyfforddi ac roedd y peniad yn wych. Dyna beth gyneuodd y tân y noson honno.”

Seliwyd buddugoliaeth Cymru gan fflach o athrylith gan Hal Robson-Kanu a pheniad gwych gan Sam Vokes. “Roedd gan Hal yr opsiwn o dynnu’n ôl,” esboniodd Coleman. “Oherwydd fy mod i'n gweld y peth yn digwydd yn araf o ’mlaen i, nes i feddwl i mi fy hun- “Tynna hi’n ôl, Hal.” Ac wrth iddo edrych fel pe bai ar fin tynnu’n ôl a'r amddiffynnwr yn mynd amdani, mae'n troi. Mae’n anodd peidio â meddwl ‘Waw, fedra i ddim credu ei fod o wedi gwneud hynny!' Ond roedd o dal angen sgorio, a dyna’r darn anoddaf. Ond fe bwyllodd a sgorio’r gôl. Roedd hi’n ergyd gref ac roedd yn eiliad swreal wrth i’n cefnogwyr fynd yn hollol wyllt oherwydd y math o gôl oedd hi.

“Mae ’na glip enwog lle rydw i’n siarad â mi fy hun, yn gwylio Chris Gunter yn croesi’r bêl. Dydw i ddim eisiau iddo groesi'r bêl oherwydd dim ond pedwar neu bum munud sydd ar ôl. Dwi’n gweld Sam yn y blwch ac mae wedi cael y blaen ar yr amddiffynnwr ac mae Chris wedi gweld hynny, ac mae Chris wedi rhoi croesiad gwych. Ond peniad Sam Vokes! Roedd yn un o'r goliau penio gorau i mi eu gweld erioed. Roedd yn aruthrol.

“Y teimlad yna… fedra i ddim ei ddisgrifio fo, oherwydd, yn fy ngyrfa fel chwaraewr ac fel rheolwr, dydw i erioed wedi rhagori ar y teimlad hwnnw. Yn yr eiliad honno, cefnogwyr Cymru ydan ni i gyd. Yn un o'r dorf. Cymro ydw i, yn union fel pawb arall sy’n dathlu, ac roedd honno'n foment eithaf arbennig. Roedd bod yn gymwys ar gyfer twrnamaint o'r diwedd yn anhygoel, ac yna i fynd ymlaen i wneud yr hyn a wnaethon ni, roedd yn foment cwbl werthfawr.”

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×