GEMAU GWYCH

Cymru 4-1 Lloegr

Ar gyfer y rhifyn ‘Gemau Gwych’ hwn, rydym ni’n bwrw golwg ar ddeg o gyn reolwyr Cymru, a’r gemau sy’n aros yn y cof o’u cyfnodau wrth y llyw. Nesaf, dyma Mike England yn trafod y fuddugoliaeth gofiadwy yn erbyn Lloegr mewn cyfweliad diweddar ar Sgorio.

Cymru 4-1 Lloegr - 17 Mai 1980 - Y Cae Ras, Wrecsam

Cymru XI: Davies (gôl-geidwad), J.Jones, Price, Flynn, Nicholas, Thomas, James, Walsh, Yorath (Capten), Giles, D.Jones (Pontin 46).

Goliau: Thomas (20), Walsh (30), James (61), Thompson (67 i’w gôl ei hun).

“Mi oedd hi’n ddiwrnod anhygoel,” meddai England wrth adlewyrchu ar y gêm gyda Dylan Ebenezer y llynedd, 40 mlynedd wedi’r fuddugoliaeth. “Mi oeddwn i newydd hedfan i mewn o Seattle ac roeddwn i wedi cael y swydd ac roeddwn i wrth fy modd. Y gêm gyntaf yn erbyn Lloegr yn Wrecsam, a’u curo nhw 4-1 – sôn am ddechrau! Roedd Cymru i gyd yn dathlu. Roedd hi'n gêm wych, a phawb wedi mwynhau cymaint. Mi oedd pawb yn gofyn 'beth wnaethoch chi ar ôl y gêm?' a dyma fi’n ateb 'wel, wnewch chi ddim credu hyn’. Cafodd Doug Livermore (y rheolwr cynorthwyol) a minnau decawê cyn mynd yn ôl i dŷ fy rhieni ym Mhrestatyn. Cysgodd o ar fat o flaen y tân a chysgais i yn yr ystafell wely fach. Tydi pobol ddim yn credu hynny, ond dyna ddiwrnod!”

Ar ôl 16 munud, roedd Lloegr ar y blaen diolch i gôl gan Paul Mariner, ond yn y pen draw, cawsant eu curo gan Gymru am y tro cyntaf ers 1955. Roedd cryfder a chyflymder Cymru yn ormod o her i’r gwrthwynebwyr wrth i'r haul dywynnu ar y Cae Ras, gyda gôl yr un gan Mickey Thomas ac Ian Walsh yn rhoi Cymru ar y blaen cyn hanner amser. Sgoriodd Leighton James y drydedd gôl ar ôl awr, a sgoriodd Phil Thompson i’w rwyd ei hun i ddod â phrynhawn diflas Lloegr i ben ac wrth i Gymru hawlio un o’r buddugoliaethau mwyaf cofiadwy yn hanes y gêm ryngwladol.

“Fyddwn ni ddim yn anghofio’r diwrnod hwnnw. Roedd o’n rhyfeddol,” ychwanegodd England. “Aethon nhw ar y blaen, ac roedd dod yn ôl o hynny ac ennill 4-1 fel gwireddu breuddwyd. Allwn i ddim fod wedi gofyn am ddechrau gwell i ’nghyfnod gyda Chymru, ac mae'n ddiwrnod y byddwn ni yn ei gofio. Rydych chi'n cofio rhai dyddiau yn eich gyrfa ac mae’r diwrnod hwnnw’n sicr yn un ohonynt. Roedd gennym ni Mickey Thomas a Leighton James, a chwaraewyr eraill cyflym iawn.”

“Dwi’n cofio siarad am y gêm, a’r un peth oedd yn rhaid i ni ei wneud oedd atal Lloegr rhag chwarae. Felly pan oedd y bêl yn eu meddiant nhw, roedd yn rhaid i ni eu cau nhw lawr yn sydyn. Dyna beth y trïon ni ei wneud, ac fe weithiodd hynny. Cafodd Lloegr drafferth dechrau arni, fe weithiodd yn wych. Roedd gennym ni chwaraewyr egnïol fel Mickey Thomas. Roedd Brian Flynn yn wych, a Peter Nicholas. Mae’n anhygoel pa mor wych wnaethon nhw chwarae. Roedd yn fuddugoliaeth wych – am ffordd i ddechrau!”

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×