GEMAU GWYCH

Denmarc 1-2 Cymru

Ar gyfer y rhifyn ‘Gemau Gwych’ hwn, rydym ni’n bwrw golwg ar ddeg o gyn reolwyr Cymru, a’r gemau sy’n aros yn y cof o’u cyfnodau wrth y llyw. Trown ein golygon at Bobby Gould nesaf.

Denmarc 1-2 Cymru - 10 Hydref 1998 - Stadiwm Parken, Denmarc.

Cymru XI: Jones (gôl-geidwad), Barnard, Coleman, Symons, Williams, Johnson (Pembridge 65), Savage, Speed (Capten), Blake (Bellamy 69), Hughes, Saunders (Robinson 81).

Goliau: Williams (58), Bellamy (86).

Bobby Gould oedd yr ail Sais erioed i reoli Cymru ar ôl Mike Smith, a phrin oedd y buddugoliaethau yn ystod ei gyfnod gyda dim ond saith buddugoliaeth mewn 24 gêm. Roedd Gould yn rheolwr ers tair blynedd erbyn i’r ymgyrch ragbrofol ar gyfer Ewro 2000 UEFA ddechrau, ac yn ymuno â Chymru yng Ngrŵp 1 roedd yr Eidal, y Swistir, Denmarc a Belarws. Dechreuodd ymgyrch Cymru gyda cholled 2-0 yn erbyn yr Eidal yn eu stadiwm dros dro yn Anfield ym mis Medi 1998. Ond fe syfrdanodd Cymru eu gwrthwynebwyr yn y rownd nesaf o gemau wrth iddyn nhw deithio i Copenhagen.

Roedd Denmarc wedi cyrraedd rownd yr wyth olaf yng Nghwpan y Byd FIFA 1998, a nhw oedd yn dominyddu'r gêm am gyfnodau hir heb ennill mantais dros eu gwrthwynebwyr nes i Søren Frederiksen sgorio ar ôl 57 munud. Ond daeth ymateb gan Gymru ar unwaith wrth i Adrian Williams benio cic rydd Darren Barnard heibio i’r golwr Mogens Krogh. Ar ben arall y cae, perfformiodd Paul Jones yn wych, a’r eilydd Craig Bellamy a fyddai’n hawlio’r penawdau wrth iddo hefyd benio pêl Barnard heibio i Krogh gyda dim ond munudau’n weddill.

“Roedden nhw i gyd yn arwyr,” meddai Gould ar ôl y gêm. “Roedd yn berfformiad godidog. Roedden ni’n ffyddiog y gallem ni ennill, ac roedd ymrwymiad a balchder y chwaraewyr yn fwy nag y gallwn ofyn amdano. Roedd 14 Cymro gwych yn rhoi eu hymdrech orau.” Ond roedd gan reolwr Denmarc Bo Johnson farn wahanol. “Fe gawson nhw un cyfle go iawn, a chael dwy gôl,” esboniodd. “Dyma bêl-droed ar ei waethaf. Roedden ni’n chwarae'n dda iawn, yn wych, a chawsom ni sawl cyfle. Fe ddylen ni fod wedi sgorio mwy.”

Er i Gymru gyflawni’r dwbl dros Belarws, cawsant eu curo mewn 5 o'r wyth gêm a oedd yn weddill gan orffen yn y pedwerydd safle yn y grŵp. Yr Eidal oedd yr enillwyr, ac aeth Denmarc yn eu blaenau hefyd ar ôl buddugoliaeth gadarn 8-0 yn erbyn Israel yn y gemau ail gyfle. Gwnaeth Denmarc iawn am eu colled yn erbyn Cymru yn Anfield ym mis Mehefin 1999, gan hawlio buddugoliaeth 2-0 rai dyddiau ar ôl i Gould ymddiswyddo ar ôl i Gymru golli 4-0 yn erbyn yr Eidal yn Bologna.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×