GEMAU GWYCH

Hwngari 1-2 Cymru

Ar gyfer y rhifyn ‘Gemau Gwych’ hwn, rydym ni’n bwrw golwg ar ddeg o gyn reolwyr Cymru, a’r gemau sy’n aros yn y cof o’u cyfnodau wrth y llyw. Mike Smith yw'r trydydd rheolwr dan y chwyddwydr.

Hwngari 1-2 Cymru - 16 Ebrill 1975 - People's Stadium, Hwngari

Cymru XI: Davies (gôl-geidwad), Page, Phillips, Roberts, Thomas, Griffiths, Mahoney, Reece (Smallman 82), James (Flynn 59), Toshack, Yorath (Capten).

Goliau: Toshack (44), Mahoney (69).

Yn ymuno â Chymru yn yr ymgyrch ragbrofol ar gyfer Ewro 1976 oedd Hwngari, Awstria a Lwcsembwrg, ac nid oedd colli 2-1 yn Fienna yn yr ornest agoriadol yn cynnig unrhyw awgrym o beth oedd ar ddod i’r genhedlaeth dalentog o chwaraewyr. Honno oedd yr unig gêm i Gymru golli yng Ngrŵp 2, a Chymru oedd yn fuddugol yn y pum gêm ddilynol gan orffen ar frig y grŵp o dri phwynt a chyda hynny, symud ymlaen i rownd yr wyth olaf a gornest dau gymal yn erbyn Yugoslavia i geisio hawlio lle yn y rowndiau cynderfynol pedwar tîm yn Zagreb a Belgrade.

Hawliodd gôl yr un gan Arfon Griffiths a John Toshack fuddugoliaeth drawiadol 2-0 i Gymru yn erbyn Hwngari yng Nghaerdydd ym mis Hydref 1974. Wedi hynny daeth buddugoliaeth 5-0 yn erbyn Lwcsembwrg ym mis Tachwedd. Ond y gêm ddychwelyd yn erbyn Hwngari yn Budapest ym mis Ebrill 1975 oedd gêm gofiadwy’r ymgyrch. Doedd yr un o wledydd Ynysoedd Prydain wedi ennill yn stadiwm ‘People's Stadium’ yn Hwngari ers 1909, a dim ond un gêm gystadleuol oedd Hwngari wedi ei cholli yno. O gymharu, dim ond un gêm ragbrofol oddi cartref oedd Cymru wedi ei hennill ers Cwpan y Byd 1958.

Methodd John Toshack gic o’r smotyn yn yr hanner cyntaf, ond gwnaeth yn iawn am hynny drwy sgorio croesiad gan Leighton James ychydig cyn hanner amser. Cymrodd Brian Flynn le James ar y cae ar ôl awr, ac roedd yn gymorth wrth i John Mahoney sgorio'r ail gôl ar ôl 69 munud. Sgoriodd László Branikovits gôl i’r tîm cartref gydag ychydig llai na 15 munud yn weddill, ond roedd chwarae amddiffynnol gwych gan Gymru a pherfformiad unigol gwych gan y gôl-geidwad, Dai Davies, yn ddigon i Gymru hawlio buddugoliaeth annisgwyl, gofiadwy yn erbyn ffefrynnau’r grŵp.

I’r rheolwr, Mike Smith, oedd y diolch am hynny, wrth iddo gyflwyno chwarae tactegol manylach yn nhîm rhyngwladol Cymru, gyda phwyslais ar ddod i adnabod y gwrthwynebwyr. Ond roedd Smith yn awyddus i dynnu sylw at gyfraniad y capten Terry Yorath yn ei ddadansoddiad ar ôl y gêm. “Roedd yn dactegol wrth ymateb i heriau Hwngari,” meddai Smith. “Ac fel capten, mae ganddo reddf gystadleuol aruthrol sy’n ysgogiad i bob chwaraewr arall.” Ond methodd Cymru ag ennill lle yn rowndiau terfynol Ewro 1976 wedi i Iwgoslafia eu curo 2-0 yn Zagreb a’u dal i gêm gyfartal 1-1 yng Nghaerdydd.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×