Hoelio’r sylw ar Gymru

Dyfodiad Harry Wilson

Mae Harry Wilson wedi hen sefydlu ei hun fel rhan bwysig o’r garfan bresennol, ond roedd dechrau digon dadleuol i’w yrfa ryngwladol ar y lefel uchaf wrth i gyn-reolwr Cymru, Chris Coleman roi iddo ei flas cyntaf o bêl-droed ar y lefel honno mewn gêm ragbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2014 FIFA yn erbyn Gwlad Belg.

Daeth ymlaen yn lle Hal Robson-Kanu ar ôl 87 munud yn stadiwm King Baudouin ym Mrwsel  ym mis Hydref 2013, y chwaraewr rhyngwladol ‘fengaf erioed i chwarae i Gymru yn 16 oed a 207 diwrnod, gan guro’r record a oedd gynt yn perthyn i Gareth Bale.

Dim ond 24 yw Wilson o hyd, ac er i’w gyfnod yn Lerpwl gael ei ddiffinio gan gyfres o symudiadau ar fenthyg a aeth ag ef i Crewe Alexandra, Hull City, Derby County, Bournemouth a Chaerdydd, bydd symudiad parhaol i Fulham dros yr haf ar gontract pum mlynedd yn golygu y gall symud ymlaen o’r rhwystredigaeth o gael ei gyfyngu i lond llaw o gyfleoedd ar ôl dod trwy rengoedd iau ac ieuenctid y clwb a ymunodd ag ef yn ôl yn 2005. “Fuaswn i ddim yn dweud ei fod yn beth hawdd i’w wneud,” meddai wrth Goal.com ar ôl ymadael ag Anfield. “Ond yn bendant dyma’r peth iawn i mi. Dwi’n gwybod mod i wedi gwneud y penderfyniad iawn."

Ond roedd Wilson yn hawlio’r penawdau ymhell cyn iddo ffarwelio ag Anfield, a daeth y manteision o chwarae ei gêm ryngwladol gyntaf cyn iddo hyd yn oed ddod yn agos at chwarae pêl-droed clwb ar y lefel uchaf yn destun dadl. "Os yw’n gwireddu ei botensial, mae gennym ni chwaraewr da arall ar ein dwylo,” meddai Coleman ar ôl ei gêm gystadleuol gyntaf. “Nawr ei fod wedi cael mymryn o flas o hynny, mae hynny yn cadarnhau ei ddyfodol gyda Chymru am y 10 neu 15 mlynedd nesaf. Nid dim ond ni oedd eisiau bachu doniau Harry Wilson. Rydyn ni’n gwybod hynny. Fe wnaethon ni siarad â’i rieni ddydd Gwener ac fe ddywedon nhw ei fod eisiau chwarae i Gymru, sy’n arbennig. Mae wedi bod yn wych wrth hyfforddi, yn llawn brwdfrydedd. Ac mae wedi dangos ambell gyffyrddiad hyfryd.”

Gan ddychwelyd i’r Garfan Dan 21 i barhau â’i ddatblygiad, byddai Wilson yn dechrau i dîm Cymru am y tro cyntaf ar ei ben-blwydd yn 21 ym mis Mawrth 2018, ac fe nododd yr achlysur gan sgorio yn y fuddugoliaeth 6-0 dros Tsieina. Nid yw Wilson wedi edrych yn ôl ers hynny, ac mae bellach yn dynesu at 200 o ymddangosiadau cystadleuol i’w wlad a’i glwb mewn gyrfa lle mae’n ymddangos bod llawer eto i ddod. Ond mae ei draed wedi parhau ar y ddaear, ac mae aeddfedrwydd ei gymeriad yn glir i’w weld wrth iddo barhau i gefnogi ei glwb lleol, Corwen, gan ymweld â’r clwb i roi un o’i grysau ar ôl Ewro 2020 UEFA.

Ond fe wnaeth ymddangosiad cyntaf Wilson yn erbyn Gwlad Belg hefyd fachu’r penawdau am resymau eraill. Fe wnaeth bet £50 ar 2500/1 gan ei daid Peter Edwards y byddai Wilson yn cynrychioli ei wlad 13 mlynedd cyn iddo ddod oddi ar y fainc ennill £125,000 iddo. “Pan oedd Harry tua 18 mis oed, roedd o’n mynd ar ôl pêl ar y carped cyn iddo hyd yn oed allu cerdded,” meddai Mr Edwards wrth BBC Wales. “Ro’n i mewn panic achos eu bod nhw eisoes wedi dod â dau eilydd ‘mlaen, felly doeddwn i ddim yn meddwl ei fod am ei gwneud hi. Ond pan ddaeth ymlaen fe ges i wydraid arall o win! Ro’n i’n daid balch does dim dwywaith am hynny.”

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×