GWLAD BELG

Dod i Adnabod y Rheolwr

Roberto Martinez

Position Rheolwr

Age 48

Height 175cm

Club GWLAD BELG

Roberto Martinez

Wyneb cyfarwydd i gefnogwyr pêl-droed yng Nghymru wedi iddo ddechrau ei yrfa reoli gydag Abertawe yn 2007 a’u harwain i Gynghrair Un fel pencampwyr yn ei dymor llawn cyntaf.

Roedd yn ffigwr poblogaidd gyda’r Elyrch yn ystod ei yrfa chwarae yn lefelau is pyramid pêl-droed Lloegr, a daeth i sylw rhyngwladol fel hyfforddwr, gan ennill yr FA Cup gyda Wigan Athletic yn 2013 cyn symud i Everton. Cafodd ei benodi fel rheolwr tîm cenedlaethol Gwlad Belg yn 2016, ac ers hynny mae Martinez wedi arwain y Diafoliaid Cochion i frig rhestr FIFA ac wedi cyrraedd rowndiau cynderfynol Cwpan y Byd 2018 FIFA yn Rwsia. Rheolwr profiadol sydd wedi bod wrth y llyw ar gyfer dros 500 o gemau ar ôl ymddeol o chwarae yn 33 oed. 

Read More
Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×