ARWYR Y GWRTHWYNEBWYR

PAUL VAN HIMST – Y CHWARAEWR A’R RHEOLWR

Mae’r ‘streicar’ Paul Van Himst yn dipyn o arwr chwedlonol yn Anderlecht ar ôl chwarae dros 450 o gemau i’r clwb wedi iddo ddatblygu drwy’r timau ieuenctid, gan sgorio 233 o goliau cystadleuol yn y broses rhwng 1959 a 1975.

Roedd ei berfformiadau llawn cystal i’w dîm cenedlaethol hefyd, ac mae’n gydradd drydydd yn y rhestr o sgorwyr mwyaf llwyddiannus ei wlad gyda 30 o goliau mewn 81 o ymddangosiadau rhyngwladol. Fe gynrychiolodd Gwlad Belg yng Nghwpan y Byd FIFA 1970 ym Mecsico, a dim ond Eden Hazard a Romelu Lukaku sydd wedi sgorio mwy o goliau i Wlad Belg. Ond mae mwy i Van Himst na’i ddawn o flaen y gôl yn unig.

Ond cyn i ni fwrw golwg fanylach ar lwyddiant Van Himst fel rheolwr Anderlecht a Gwlad Belg, mae llawer mwy i adlewyrchu arno o’i yrfa chwarae na goliau yn unig. Enillodd 14 o wobrau mawr gydag Anderlecht, ac fe enillodd wobr ‘Golden Shoe’ Gwlad Belg hefyd ar bedair gwahanol achlysur gyda’r clwb. Daeth y pedwerydd 14 mlynedd ar ôl y cyntaf, sy’n dangos am ba hyd yr oedd ar ei orau ar y lefel honno. Cafodd ei lwyddiannau eu cydnabod gan UEFA yn 2004 pan gafodd ei enwi fel chwaraewr gorau Gwlad Belg o’r hanner canrif ddiwethaf, a daeth yn bedwerydd ym mhleidlais Ballon d’or- 1965. Cafodd ei enwi fel chwaraewr y ganrif i Wlad Belg ym 1995.

Cam naturiol oedd i Van Himst fynd ymlaen i reoli Anderlecht ar ôl ymddeol, ac fe gymerodd yr awenau ym 1983. Dros y tair blynedd nesaf, byddai’r clwb yn ennill cynghrair Gwlad Belg a’r ‘Super Cup’ yn ogystal â chyrraedd rownd derfynol Cwpan UEFA ar ddau achlysur, ac ennill y tlws gyda buddugoliaeth 2-1 dros Benfica Sven-Göran Eriksson yn ei dymor cyntaf fel rheolwr. Fe wnaeth argraff debyg fel rheolwr Anderlecht ag y gwnaeth fel chwaraewr yno, a doedd hi ddim yn hir tan i’r tîm cenedlaethol alw ar ei wasanaethau. Ar ôl cyfnod gyda Molenbeek, fe gymerodd Van Himst yr awenau gyda Gwlad Belg ym 1991.

Ymunodd Cymru â nhw yn y grŵp rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd FIFA 1994, a daeth Gwlad Belg yn ail i Rwmania yng Ngrŵp 4 gan olygu bod tîm Van Himst yn cyrraedd y rowndiau terfynol yn yr Unol Daleithiau yn awtomatig. Cawsant eu tynnu yng Ngrŵp F, a diolch i fuddugoliaethau dros Morocco a’r Iseldiroedd, aeth y tîm ymlaen i gamau ‘knockout’ y twrnamaint. Ond daeth eu siwrne i ben yn Chicago wrth i’r Almaen eu trechu 3-2. Ar ôl colli allan ar le yn Ewro 1996 UEFA, gadawodd Van Himst ei swydd a’r gêm broffesiynol am byth.

Yn ystod ei yrfa chwarae, fe ddenodd Van Himst dipyn o ddiddordeb, ond aros yng Ngwlad Belg a wnaeth gyda’i deulu, er iddo gael ambell i gynnig deniadol iawn. “Real Madrid,” eglurodd Van Himst mewn cyfweliad gyda’r papur newydd De Zondag yn 2017. “Roedden nhw’n chwilio am ‘playmaker’ ar ôl i Di Stéfano adael. Dwi’n meddwl y buaswn i wedi gallu chwarae iddyn nhw. Roedd y cyflog tair neu bedair gwaith yn fwy, dwi ddim yn cofio’n iawn. Ond er mod i’n dda, doedd gen i ddim diddordeb. Efallai y byddai hynny’n wahanol nawr.”

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×