GWLAD BELG

Dod i Adnabod y Rheolwr

Jan Vertonghen

Position Amddiffynnwr

Age 34

Height 189cm

Club Benfica (Portiwgal)

Jan Vertonghen

Ffigwr profiadol y tîm sydd wedi ennill mwy o gapiau na’r un chwaraewr o’i flaen yn hanes Gwlad Belg. Mae’n parhau i fod yn rhan allweddol o’r tîm cenedlaethol sy’n cynnig amddiffynfa gadarn i ddiogelu’r ddawn ymosod sy’n diffinio’r garfan bresennol.

Ar ôl dechrau ei yrfa gyda Ajax, symudodd Vertonghen i Tottenham Hotspur yn 2012 a threulio’r wyth mlynedd nesaf yn Llundain cyn symud i Benfica yn 2020. Chwaraeodd ei gêm gyntaf i Wlad Belg ym mis Mehefin 2007 mewn colled 2-1 yn erbyn Portiwgal, ac fe gynrychiolodd ei wlad yn y Gemau Olympaidd y flwyddyn ganlynol.

Read More

Eden Hazard

Position Canol Cae

Age 30

Height 175cm

Club Real Madrid (Sbaen)

Eden Hazard

Un o chwaraewyr mwyaf talentog y gêm Ewropeaidd, daeth Eden Hazard i’r amlwg yn Ffrainc gyda Lille ar ôl dod trwy rengoedd ieuenctid y clwb. Ond symud i Chelsea yn 2012 a gadarnhaodd ei statws fel un o chwaraewyr gorau ei genhedlaeth.

Wedi chwarae dros 350 i’w clwb, symudodd Hazard i Real Madrid yn 2019. Mae wedi ennill dros gant o gapiau i’w dîm cenedlaethol ar ôl chwarae am y tro cyntaf 2008, yn gapten ar y tîm presennol ac yn rhan ganolog o’u chwarae ymosodol.

Read More

Christian Benteke

Position Blaenwr

Age 30

Height 190cm

Club Crystal Palace (Lloegr)

Christian Benteke

Wyneb cyfarwydd o’i gyfnod yn y Premier League gydag Aston Villa, Lerpwl a’i glwb presennol, Crystal Palace. 

Cafodd ei eni yn Zaire, a chyrhaeddodd Benteke a’i deulu yng Ngwlad Belg pan oedd yn blentyn, a daeth drwy’r rhengoedd ieuenctid gyda Standard Liège a Genk gan chwarae ar y lefel uchaf i’r ddau glwb cyn ymuno ag Aston Villa ym mis Awst 2012 am ffi honedig o £7 miliwn. Sgoriodd Benteke yn ei gêm gyntaf yn y ‘Premier League’ mewn buddugoliaeth 2-0 dros Abertawe, ac arhosodd yn y clwb am dair blynedd. Ymunodd yr ergydiwr â Lerpwl am £32.5 miliwn yn 2015, a’r haf canlynol symudodd i Crystal Palace am ffi gychwynnol o £27 miliwn. Chwaraeodd am y tro cyntaf ar y lefel uchaf i Wlad Belg ym mis Mai 2010.

Read More
Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×