Hoelio’r sylw ar Gymru

Bale yn ysbrydoli cenedl

Mae stori ein hymgyrch i gyrraedd Ewro 2016 UEFA bron yr un mor gofiadwy â’r twrnamaint ei hun.

Roedd mynd ar ei hôl hi yn y chweched munud yn erbyn Andorra yng ngêm agoriadol yr ymgyrch ym mis Medi 2014 yn nodweddiadol o Gymru ar y pryd, ond daeth dwy gôl gan Gareth Bale i achub y dydd a’r gêm. Yn ddiguro yn dilyn gemau yn erbyn Bosnia a Herzegovina yn ogystal â Cyprus, teithiodd Cymru i Israel am gêm dyngedfennol yn Haifa, ac Aaron Ramsey a Bale a rannodd y goliau i sicrhau’r fuddugoliaeth 3-0 ym mis Mawrth 2015. A hwythau mewn lle cadarn yn y grŵp, ac ar ôl dal Gwlad Belg i gêm gyfartal 0-0 ym Mrwsel y mis Tachwedd canlynol, byddai’r Diafoliaid Cochion yn anelu am Gaerdydd am noson gofiadwy ym mis Mehefin.

Roedd momentwm yn adeiladu yng ngharfan Chris Coleman, a gyda’r dorf yn cynyddu o un gêm i’r llall, daeth stadiwm dan ei sang ynghyd i gefnogi eu tîm yn eu brwydr yn erbyn Gwlad Belg, tîm a oedd yn boddi dan dalent unigol. Ond roedd ffydd o fewn tîm Coleman ar ôl dechrau cadarn i’r ymgyrch, a byddai’r gêm hon ar adeg dyngedfennol yn siapio gweddill y grŵp, ac yn pennu pa safle y gallai Cymru wthio amdano yn y grŵp.

Dechreuodd Gwlad Belg yn gryf, ond profodd y penderfyniad i gynnwys Jazz Richards yn un pwysig wrth iddo gyfyngu ar Eden Hazard, a thyfodd Cymru mewn hyder wrth i’r ymwelwyr ddod yn fwyfwy rhwystredig. Ar ôl 25 munud, bachodd Bale ar beniad blêr i’r gôl-geidwad Thibaut Courtois gan Radja Nainggolan, gan reoli’r bêl yn berffaith i drosi o agos a rhoi Cymru ar y blaen. Ffrwydrodd y dorf a’r chwaraewyr yn un dathliad mawr, gan osod y tôn ar gyfer gweddill y gêm. Daeth fersiwn unigryw o’r anthem i atseinio’n frwd o amgylch y stadiwm lawn cyn diwedd y gêm, a hynny wrth i Wlad Belg gynyddu’r pwysau yn yr ail hanner.

“Da chi angen i’ch chwaraewyr mawr berfformio mewn gemau mawr,” meddai Coleman wrth UEFA.TV yn 2020 wrth iddo fyfyrio ar y fuddugoliaeth. “Roedd pob un o’r chwaraewyr yn dyheu amdani. Dwi’n edrych ar Aaron Ramsey, Ashley Williams a Gareth Bale. Chwaraewyr penigamp, a phob un yn awchu amdani gan ei bod hi’n her enfawr. Fe wnaeth pob aelod o’r tîm beth oedd ei angen, a mwy, ac yn y diwedd, dwi’n meddwl y gwnaeth Gwlad Belg redeg allan o syniadau achos beth bynnag oedden nhw’n ei ofyn i ni, roedd gennym ni atebion. Yn seicolegol, roedden ni wedi eu hwynebu nhw o’r blaen, felly roedden ni’n gwybod cystal tîm oedden nhw. Ond doedden ni ddim yn poeni am frwydro yn eu herbyn nhw. Roedden ni’n barod i wneud unrhyw beth i oresgyn yr her honno, ac roedd pob un o’n chwaraewyr ar y noson yn hollol wych.”

Aeth y fuddugoliaeth â Chymru yn ôl i frig y grŵp, ac er i dîm Coleman orffen y tu ôl i Wlad Belg yn y grŵp yn y pen draw, roedd yn ddigon i sicrhau eu lle yn Ewro 2016 gan ddod â chyfnod o 58 mlynedd o ddisgwyl am dwrnamaint mawr i ben. Mae’r gweddill, wrth gwrs, yn hen hanes, ond does dim modd tanbrisio mantais seicolegol y noson honno yng Nghaerdydd pan ddaeth i sicrhau canlyniadau yn hwyrach yn yr ymgyrch. Daeth cadarnhad bod Cymru yn mynd i’r Ewros yn unig golled Cymru yn y grŵp wrth i’r tîm golli 2-0 i Bosnia and Herzegovina yn Zenica, ond cafodd unrhyw siom ei leddfu gan y dathliadau a ddaeth i ddilyn.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×