RHIFYN CYMRu ALLTUD

Alltudion Eraill yn Llwyddo Dramor

Trwy gydol y gyfres ‘Cymry alltud’ hon o erthyglau, rydym ni wedi bwrw golwg ar nifer o arwyr mwyaf Cymru.

Ond er i bobl fel Ian Rush, Gareth Bale, Jess Fishlock a John Toshack chwarae neu reoli ar y lefel uchaf ledled Ewrop a thu hwnt, mae llawer o rai eraill sydd wedi gadael Cymru i wireddu eu huchelgais bêl-droed rhywle arall. Yn yr erthygl olaf hon, cawn fwrw golwg ar rai o’r unigolion sydd wedi symud ymlaen o’r gêm ddomestig yng Nghymru i deithio'r byd i wireddu eu breuddwydion.

Cododd Mika Chunuonsee drwy rengoedd Caerdydd a Chymru ar y cyd â chwaraewyr fel Aaron Ramsey a Chris Gunter, gan gynrychioli ei wlad ar lefel Dan 17 yn 2006 cyn cael ei ryddhau gan glwb Caerdydd y flwyddyn ganlynol. Chwaraeodd gyda Bryntirion Athletic, Castell-nedd ac Afan Lido yn ystod y ddwy flynedd nesaf, ond yn 2009 dychwelodd yr amddiffynnwr amryddawn i famwlad ei dad yng Ngwlad Thai wedi treulio'r rhan fwyaf o'i blentyndod yno. Ar ôl ymuno â Muangthong United, mae Chunuonsee bellach wedi ennill ei blwyf yng nghynghrair Gwlad Thai ar ôl arwyddo i Bangkok United yn 2014, a daeth yn chwaraewr rhyngwladol yn 2015 pan ymddangosodd yn nhîm cyntaf Gwlad Thai.

Ym mis Mai 2013, fe wnaeth yr amddiffynnwr John Irving greu hanes yn ystod ei gyfnod yn y Bala gan sgorio unig gôl y gêm yn rownd derfynol gemau ail gyfle Cynghrair Europa UEFA yn erbyn Port Talbot. Sicrhaodd y fuddugoliaeth 1-0 ymgyrch Ewropeaidd gyntaf i’r Bala, ond gadawodd Irving y clwb ar ôl y gêm, gan symud i dîm Auckland City, Seland Newydd, pencampwyr Oceania. Ar y pryd, roedd y tîm yn paratoi i gystadlu yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd Clybiau FIFA. Dal eu gafael ar deitl pencampwyr Cynghrair Pencampwyr OFC wnaeth Auckland City y flwyddyn ganlynol, gydag Irving yn chwarae rhan allweddol yn eu llwyddiant. Chwaraeodd mewn dwy rownd derfynol Cwpan y Byd Clybiau FIFA cyn dychwelyd i’r Bala yn 2015.

Ond er i Irving brofi llwyddiant yn Seland Newydd, roedd nifer o chwaraewyr eraill o'r haen uchaf yn mynd i Awstralia. Yn eu plith roedd y brodyr Corey a Casey Thomas a fu’n cynrychioli Port Talbot, Afan Lido a Chaerfyrddin. Enillodd Casey hefyd anrhydeddau rhyngwladol gyda thimau Dan 19 a Dan 21 Cymru cyn iddo symud i Abertawe. Wedyn, symudodd y pâr i Moreland City yn 2015 cyn eu hymgyrch gyntaf yn yr Uwch Gynghrair Genedlaethol, ac mae Corey yn parhau yn Awstralia hyd heddiw.

Er bod symud dramor wedi bod yn blatfform i lwyddiant chwaraewyr, mae'r un peth yn wir ym maes rheoli. Symudodd Darren Davies, cyn-amddiffynnwr y Barri, Port Talbot a thîm Dan 21 Cymru i Awstralia yn 2009 i wireddu ei freuddwydion hyfforddi, a gwobrwywyd ei waith caled yn 2011 pan gafodd ei benodi’n hyfforddwr y tîm ieuenctid yn Melbourne City. Derbyniodd gydnabyddiaeth am ei ddawn pan gafodd ei ddyrchafu i staff hyfforddi’r tîm cyntaf ddwy flynedd yn ddiweddarach, ac yn 2015 fe’i penodwyd yn rheolwr tîm cenedlaethol dan 20 Awstralia. Bu Davies hefyd yn gweithio gydag uwch dîm cenedlaethol Awstralia yng Nghwpan Cydffederasiynau FIFA 2017.

Symudodd Davies i hyfforddi gyda Brisbane Roar yn 2018, a phrofodd i fod yn gam arwyddocaol yn ei yrfa, oherwydd pan ymddiswyddodd y rheolwr John Aloisi ym mis Rhagfyr y flwyddyn honno, camodd Davies i’r adwy fel rheolwr dros dro'r tîm A-League am 18 gêm. Arhosodd yn ei swydd tan fis Mai 2019 cyn dychwelyd i fod yn hyfforddwr i weithio ochr yn ochr â Robbie Fowler ar ôl i hwnnw gael ei benodi’n rheolwr. "Dros yr ychydig wythnosau diwethaf, rydw i wedi cael fy llenwi â gobaith ac angerdd o wybod y galla i, ac y bydda i, yn gwneud y swydd hon ar ryw bwynt” meddai Davies tuag at ddiwedd ei gyfnod fel rheolwr dros dro. "Mi fydda i’n arwain y clwb a'r chwaraewyr nes i mi gael gwybod fel arall.”

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×