CIPOLWG AR GYMRU

DREIGIAU TURIN

Mae gan un o’r clybiau mwyaf llwyddiannus yn hanes pêl-droed yr Eidal, Juventus, restr hirfaith o lwyddiant domestig ac Ewropeaidd a ddechreuodd wrth iddynt gipio’r cyntaf o’u 36 cynghrair yn ôl ym 1905.

Mae pob cenedl sydd wedi dilyn ffawd I Bianconeri ers y fuddugoliaeth gyntaf honno wedi dathlu llwyddiant, ac mae tri o’r chwaraewyr gorau erioed i wisgo crys Cymru wedi bod yn rhan o hanes y clwb o Turin.

Enillodd yr anhygoel John Charles dri theitl Serie A yn ystod ei gyfnod yn Juventus, yn ogystal â’r Coppa Italia ar ddau achlysur. Gan gyrraedd yr Eidal o Leeds United yn ystod haf 1957 am y ffi fwyaf erioed ar y pryd o £65,000, byddai’n profi i fod yn fargen a hanner i Juventus wrth i Charles wneud argraff enfawr yn ystod ei bum mlynedd yn y clwb. Ac yntau’n brif sgoriwr Serie A yn ystod ei dymor cyntaf, mi fyddai’n mynd ymlaen i sgorio dros 100 o goliau i’r clwb, gan ennill iddo’r llysenw Il Gigante Buono (Y Cawr Mwyn neu’r Gentle Giant). Caiff ei ystyried fel y chwaraewr tramor gorau erioed i gynrychioli Juventus, a’i gofio a’i ddathlu hyd heddiw am yr hyn a gyflawnodd yn y clwb.

Cafodd y record Brydeinig am ffi drosglwyddo ei chwalu unwaith eto gan y Cymro nesaf i ddewis Juventus pan adawodd Ian Rush Lerpwl ym mis Gorffennaf 1986 am £3.2 miliwn, ond byddai’n dychwelyd i Anfield flwyddyn yn ddiweddarach ar ôl methu ag ail-adrodd ei lwyddiant o flaen y gôl yn erbyn amddiffynfeydd traddodiadol cryf yr Eidal. Sgoriodd 40 o goliau ym mhob cystadleuaeth gyda Lerpwl cyn iddo symud, ond dim ond saith a lwyddodd i’w sgorio yn ei unig dymor yn y Serie A. Fe wnaeth Rush ddioddef oddi ar y cae hefyd wrth iddo gael trafferth cysylltu â gweddill ei dîm, ac roedd yn methu gartref, tra bod y grefft ddwys o amddiffyn catenaccio yn ei gwneud yn anodd i chwaraewr fel Rush a’i steil o chwarae ddisgleirio.

Daeth Aaron Ramsey â’i gyfnod ag Arsenal i ben yn 2019 pan gytunodd y canolwr i ymuno â Juventus ar gontract pedair blynedd. Gan gyflwyno ei hun i’r wasg yn siarad Eidaleg ar ei ddyfodiad i Turin, cafodd ei holi am John Charles a’i waddol yn y clwb, a llwyddodd i swyno gwasg traddodiadol anodd yr Eidal wrth iddo siarad yn hyderus ac yn gadarnhaol am y bennod ddiweddaraf yn ei yrfa. Bellach yn chwarae o dan ei drydydd rheolwr yn yr un faint o dymhorau yn y clwb yn dilyn ymadawiad Maurizio Sarri ac Andrea Pirlo, mae oes newydd o dan Max Allegri, sy’n dychwelyd i’r clwb, wedi dechrau, ac mae pwysau ychwanegol i ddwyn llwyddiant a bri yn ôl i’r clwb ar ôl iddynt ildio teitl Serie A i Inter Milan tymor diwethaf.

Yn wahanol i Rush, mae Charles a Ramsey yn rhan o grŵp dethol o chwaraewyr Cymru sydd wedi cystadlu yn rowndiau terfynol twrnamaint rhyngwladol mawr. Ac fel nad oedd Charles yn bresennol wrth i Gymru golli i Frasil yn rownd yr wyth olaf Cwpan y Byd 1958 oherwydd anaf, byddai Ramsey hefyd yn methu colled Cymru yn erbyn Portiwgal yn rownd gynderfynol Ewro 2016 oherwydd gwaharddiad. Byddai’r ddau wrthwynebwr yn mynd ymlaen i ennill y ddwy gystadleuaeth hynny ar ôl chwalu ein gobeithion a’n breuddwydion, a chaiff ei dderbyn yn helaeth y byddai eu presenoldeb wedi dod â chanlyniad arall yn ei sgil. Er hynny, byddai Ramsey yn creu hanes yn Ewro 2020 fel unig chwaraewr Cymru i sgorio yn rowndiau terfynol dau dwrnamaint mawr.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×