Ein Gwrthwynebwyr

Sêr Mwyaf Estonia

I unrhyw genedl bêl-droed fach, mae’n hanfodol bod y rheiny a lwyddodd yn y gamp yn parhau i chwarae rôl weithredol yn ysbrydoli'r rheiny a ddaw ar eu hôl.

Gyda phrofiad gwerthfawr o chwarae ar draws Ewrop a thu hwnt yn ystod eu gyrfaoedd chwarae eu hunain, mae dau o arwyr mwyaf Estonia bellach yn rhan o staff ’stafell gefn y rheolwr Thomas Häberli. Mart Poom yw hyfforddwr presennol y gôl-geidwaid, tra bo’r sgoriwr mwyaf llwyddiannus yn hanes Estonia, Andres Oper, wedi bod yn gynorthwyydd i’r rheolwr tîm cenedlaethol am nifer o flynyddoedd.

Yn ogystal â’i lwyddiant wrth sgorio, gan ganfod cefn y rhwyd 38 o weithiau i Estonia, Oper yw’r chwaraewr sydd â’r trydydd nifer fwyaf o ymddangosiadau i Estonia ar ôl chwarae mewn 134 o gemau rhwng 1995 a 2014. Tra bo ei yrfa ryngwladol wedi para dros bron i ddau ddegawd, fe wnaeth Oper hefyd chwarae i glybiau yn Denmarc, Rwsia, yr Iseldiroedd, Tsieina, Cyprus a’i Estonia enedigol. Gan sgorio dros 140 o goliau mewn bron i 500 o gemau clwb cystadleuol, caiff Oper ei ddathlu nid yn unig am yr hyn a gyflawnodd yn lliwiau ei dîm cenedlaethol, ond am y llwyddiant a fwynhaodd yn ystod ei yrfa broffesiynol grwydrol.

Yn ôl ym 1999 oedd hi pan wnaeth Oper y symudiad mwyaf yn ei yrfa gan adael FC Flora yn Estonia i ymuno ag Aalborg yn Nenmarc. “Dwi’n meddwl mai 21 yw’r oedran iawn i symud, a chynghrair Denmarc oedd y lefel yr oedd ei hangen arna i ddatblygu,” meddai mewn cyfweliad gydag UEFA.com yn 2008. “Mae Rwsia yn lle anodd i weithio i ŵr o Estonia, ac unrhyw flaenwr arall o’r gorllewin os yw’n dod i hynny, ond dydw i ddim yn difaru mynd yno. Roedd yn brofiad arbennig ac mae’r gynghrair wedi dod yn un o’r cryfaf yn Ewrop.”

Bydd cefnogwyr pêl-droed ym Mhrydain yn fwy cyfarwydd â’r gôl-geidwad Mart Poom gan iddo gynrychioli Portsmouth, Derby County, Sunderland, Arsenal a Watford yn ystod ei yrfa. Cyn symud i Portsmouth, chwaraeodd Poom i glybiau yn Estonia, y Ffindir a’r Swistir, ac mae’n un arall o fawrion Estonia sydd â phrofiad eang o’r gêm Ewropeaidd. Rhwng 1992 a 2009, fe wnaeth Poom ymddangos i’w wlad 120 o weithiau, ac mae wedi parhau yn y tîm cenedlaethol fel hyfforddwr y gôl-geidwaid ers iddo ymddeol.

Er y bydd yn cael ei gofio am ei dalent fel gôl-geidwad a lwyddodd o atal ei wrthwynebwyr rhag sgorio mewn 38 o gemau i Estonia, bydd cefnogwyr Sunderland a Derby County yn ei gofio am ei gampau arwrol ar ochr arall y cae ym mis Medi 2003. Gan ddychwelyd i Pride Park fel rhan o dîm Sunderland ar ôl symud am £3.2 miliwn o Derby ddechrau’r flwyddyn, peniodd Poom gôl funud olaf i unioni’r sgôr a chipio’r siâr o’r pwyntiau i’w dîm mewn gêm gyfartal 1-1. Roedd hi’n gôl mor arbennig, cafodd ei dathlu gan gefnogwyr y ddwy ochr!

“Dyna oedd fy nhro cyntaf yn ôl yn Derby ar ôl gadael am Sunderland,” meddai Poom wrth Derby County TV yn 2013. “Roedd hi’n un o’r adegau bythgofiadwy yna, ac oherwydd ei fod yn erbyn Derby, doeddwn i ddim eisiau dathlu felly wnes i redeg yn ôl i fy ngôl ac roedd gweddill fy nhîm yn ceisio neidio ar fy nghefn! Beth wnaeth gyffwrdd ynof fi go iawn oedd, ar y chwiban olaf, bod y stadiwm gyfan wedi codi ar eu traed i gymeradwyo. Roedd hi’n foment arbennig i mi.”

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×