estonia
Ac yntau’n gyn-ergydiwr, treuliodd Häberli y rhan fwyaf o’i yrfa broffesiynol yn chwarae gyda chlwb BSC Young Boys yn y Swistir, gan gynrychioli’r clwb am bron i ddegawd cyn ymddeol yn 2009.
Yn ystod ei yrfa chwarae, dim ond unwaith y byddai’n ymddangos i’w dîm cenedlaethol, a hynny yn erbyn Ynysoedd y Faroe yn 2004. Gan gamu i’r byd hyfforddi gyda Young Boys ac yna’n ddiweddarach gyda’i gyn glwb Basel ar lefel ganolraddol ac fel cynorthwyydd i reolwyr timau cyntaf y ddau glwb, ni fyddai Häberli yn cael ei swydd reoli gyntaf tan fis Chwefror 2019 pan ymunodd ag FC Luzern. Ond cafodd ei ddiswyddo cyn diwedd y flwyddyn. Cafodd ei benodi yn rheolwr tîm cenedlaethol Estonia ym mis Ionawr eleni yn ei swydd gyntaf fel chwaraewr, hyfforddwr a rheolwr y tu allan i’r Swistir.