Rhifyn Cymry Alltud 

SPARKY O BARCA A BAYERN ​​​​​​​ ​​​​​​​

Nid Ian Rush oedd yr unig ergydiwr o Gymro a symudodd i’r cyfandir yn ystod haf 1986, ac mae sawl tebygrwydd gyda Mark Hughes a’i anffawd wrth symud o Manchester United i Barcelona.

Ymunodd â’r clwb o Sbaen am £2 filiwn i gysylltu â Terry Venables a Gary Lineker yn y Camp Nou, tra bod Rush yn anelu am yr Eidal gyda Juventus. Wrth i lu o sêr ymadael â Phrydain i chwarae dramor, cafodd clybiau o Loegr eu gwahardd o gystadlu yn Ewrop yn dilyn trychineb Stadiwm Heysel flwyddyn ynghynt. Ond er i Rush ddychwelyd i Lerpwl ar ôl un tymor di-fflach, daeth tro arall yn arbrawf cyfandirol Hughes.

Gyda Rush yn cael trafferthion yn Serie A, Lineker ac nid Hughes oedd yn hawlio’r penawdau am y rhesymau cywir yn Barcelona a’r La Liga. Er iddo chwarae i’r tîm 28 o weithiau yn ystod tymor 1986/87, dim ond pedair gôl y llwyddodd Hughes i’w sgorio. A hynny er i gefnogwyr pêl-droed Sbaen wedi gweld dros eu hunain cystal talent oedd Hughes yn dilyn ei foli gofiadwy yn y fuddugoliaeth 3-0 dros Sbaen yn y Cae Ras flwyddyn cyn iddo symud i Gatalonia.

“Roedd Gary ychydig yn hŷn ac roedd e’ yno gyda’i wraig, ond ro’n i yno ar fy mhen fy hun,” meddai Hughes wrth gylchgrawn FourFourTwo wrth iddo adlewyrchu ar ei gyfnod yn Barcelona. “Ro’n i newydd gwrdd â’r ferch a ddaeth yn wraig i mi yn y pen draw, felly roedd hi’n anodd bod oddi wrthi. Roedd Barcelona yn eich arwyddo chi, yn talu cyflog da, ond dyna ni o ran eu rhwymedigaeth i chi. Roedd pethau’n wahanol iawn adeg hynny, erbyn hyn mae gennych chi bobl i drefnu eich tŷ, ysgolion eich plant, ceir, popeth. Doeddwn i ddim yn siarad yr iaith. Doedd gen i ddim car felly fe wnes i hurio un am dri mis gan nad oeddwn i’n gwybod o ble i brynu un. Roedd yr holl beth yn shambls.”

Wrth i Rush frwydro i gymysgu oddi ar y cae, yr un oedd trafferth Hughes. Dychwelodd Rush i Lerpwl yn ystod haf 1987, ond ni fyddai Hughes yn dechrau ar ei ail gyfnod yn Old Trafford tan y flwyddyn olynol. Ychydig fisoedd i mewn i’w ail dymor yn Barcelona, doedd Hughes ddim bellach yn rhan o’r tîm cyntaf. Cafodd ei rewi allan o’r garfan trwy ddiffyg perfformiad a diffyg hyder, a byddai mis Tachwedd 1987 yn profi i fod yn drobwynt yn ei brofiad tramor wrth i’r cewri o’r Almaen, Bayern Munich, droi eu golygon at ei ddenu ar fenthyg am weddill yr ymgyrch.

Gyda hierarchaeth o gyn chwaraewyr proffesiynol, roedd dealltwriaeth naturiol o beth oedd ei angen ar Hughes er mwyn bod ar ei orau ar y cae, ac aethpwyd i’r afael â’r problemau a oedd wedi bwrw cysgod ar ei gyfnod yn y Camp Nou wrth iddo gyrraedd Bavaria. Er na chynyddodd y goliau rhyw lawer, fe lwyddodd i ddwyn calonnau’r cefnogwyr gyda hatric 17 munud mewn buddugoliaeth 5-0 yn erbyn VfL Bochum, a sgoriodd chwe gôl yn ei 18 o ymddangosiadau yn y Bundesliga ar ôl cyrraedd hanner ffordd drwy’r ymgyrch. Byddai’r tîm yn dod yn ail yn y tabl y tu ôl i Werder Bremen, a gyda hynny, byddai cyfnod Hughes ar y cyfandir yn dod i ben hefyd.

Ond cyn dychwelyd i Manchester United yn ystod haf 1988 am £1.8 miliwn, byddai Hughes yn cyflawni gorchest unigryw wrth chwarae dwy gêm mewn un diwrnod. Ar ôl cynrychioli Cymru mewn colled yn erbyn Tsiecoslofacia ym Mhrague ar 11 Tachwedd 1987, dychwelodd i’r Almaen ac ymddangos o’r fainc i Bayern Munich wrth iddynt ail-chwarae gêm gwpan yn erbyn Borussia Mönchengladbach y noswaith honno. Ac yntau wedi llwyr ymladd yn gorfforol, roedd y cefnogwyr yn gwerthfawrogi ei ymrwymiad, ac fe wnaeth hynny osod y tôn ar gyfer cyfnod eithaf cadarnhaol yn ei yrfa chwarae lwyddiannus.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×