CIPOLWG AR GYMRU
CIPOLWG AR GYMRU
Yn hanes y gêm Sbaenaidd, dim ond dau Gymro sydd erioed wedi hawlio’r La Liga, ac fe ddathlodd y ddau eu llwyddiant ym mhrifddinas Sbaen. John Toshack oedd y cyntaf wrth iddo arwain Real Madrid i’r teitl fel rheolwr yn nhymor cofiadwy 1989/90, tra bod Gareth Bale wedi hawlio dau deitl La Liga ers cyrraedd y clwb yn 2013.
Ond mae’r ddau wedi profi’r pwysau a’r gefnogaeth gythryblus a ddaw o gynrychioli un o enwau mwyaf y byd pêl-droed. Fel Ian Rush yn ein herthygl flaenorol, roedd Toshack hefyd yn un o arwyr Lerpwl, ac fe lwyddodd i arwain Real Madrid i’r teitl wrth i’w dîm sgorio cyfanswm anhygoel o 107 o goliau yn ystod yr ymgyrch, gyda’r ergydiwr chwedlonol o Fecsico, Hugo Sánchez, yn canfod cefn y rhwyd 38 o weithiau! Roedd yn dymor diffiniol yn hanes y clwb, ond ddim yn ddigon i Toshack gadw ei swydd wrth i ddechrau digon araf i’r tymor canlynol arwain ato yn ymadael erbyn mis Tachwedd.
Bron i ddegawd yn ddiweddarach, dychwelodd Toshack am ail gyfnod yn y clwb, ond doedd y Bwrdd ddim yn gwerthfawrogi ei feirniadaeth gyhoeddus o’i chwaraewyr a chafodd ei ddiswyddo am yr ail dro llai na blwyddyn yn ddiweddarach. Er hynny, fe wnaeth Toshack un cyfraniad mawr i ddyfodol y clwb wrth iddo ddyrchafu’r gôl-geidwad ifanc Iker Casillas i’r tîm cyntaf ym 1999. Byddai Casillas, wrth gwrs, yn mwynhau gyrfa hir a llwyddiannus i’w glwb a’i wlad, gan gadarnhau ei le fel arwr chwedlonol yn hanes Real Madrid.
Symudodd Gareth Bale i Real Madrid o Tottenham Hotspur am ffi enfawr yn 2013, ac mae bellach wedi sgorio dros 100 o goliau i’r Los Blancos. Yn ogystal â hawlio’r La Liga yn 2016/17 ac yn 2019/20, mae llwyddiant Bale yn Sbaen hefyd yn cynnwys pedair medal Cynghrair Pencampwyr a thair Cwpan y Byd Clybiau FIFA. Mae wedi ennill cyfanswm o 13 o dlysau yn ystod ei gyfnod yn Sbaen, a hefyd wedi sgorio mwy o goliau i Gymru nag unrhyw chwaraewr o’i flaen, a hynny fel ffigwr dylanwadol y tu ôl i Gymru yn cyrraedd rowndiau terfynol dau dwrnamaint mawr.
Ond mae’r cysylltiad rhwng Toshack a Bale yn ymestyn y tu hwnt i’w gyrfaoedd unigol yn y Santiago Bernabéu. Toshack oedd yr un a gyflymodd daith Bale trwy’r timau canolraddol. O’r herwydd, Bale oedd y chwaraewr 'fengaf erioed i chwarae i Gymru yn 16 a 315 diwrnod oed pan ddaeth oddi ar y fainc mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Trinidad a Tobago yn Awstria ym mis Mai 2006. Fe gynorthwyodd Robert Earnshaw i sgorio’r gôl fuddugol ac enillodd Cymru 2-1. Ychydig fisoedd yn ddiweddarach, Bale oedd y sgoriwr ‘fengaf erioed i Gymru pan sgoriodd un o’i giciau rhydd nodweddiadol yn erbyn Slofenia yng Nghaerdydd.
Roedd Bale yn un o blith nifer o sêr ifanc a gafodd eu dyrchafu i’r tîm cyntaf cyn eu hamser o dan Toshack, ac er i lwyddiant ddod i’r amlwg yn y pen draw wrth i Gymru gymhwyso ar gyfer Ewro 2016, ni fyddai Toshack yn gweld ei weledigaeth yn dwyn ffrwyth tra’i fod wrth y llyw. Gyda’r diweddar Gary Speed ac yna Chris Coleman yn etifeddu grŵp o chwaraewyr ifanc gyda phrofiad rhyngwladol y tu hwnt i’w hoedran, o leiaf nad oedd gwaith Toshack a rheolwr y timau canolraddol Brian Flynn yn ofer.
Update your browser to view this website correctly. Update my browser now