Gair am Gymru

Tynnu enwau o’r het ar gyfer Ymgyrch Ragbrofol Cwpan y Byd FIFA 2023

Bydd Cymru yn wynebu Ffrainc, Slofenia, Gwlad Groeg, Kazakhstan ac Estonia ar y daith i geisio cyrraedd Cwpan y Byd 2023 FIFA yn Awstralia a Seland Newydd wedi i’r enwau gael eu tynnu o’r het i roi tîm Gemma Grainger yng Ngrŵp I.

Bydd Cymru’n dechrau’r ymgyrch gartref yn erbyn Kazakhstan ddydd Gwener 17 Medi. Bydd Kazakhstan yn wrthwynebwyr cyfarwydd ar ôl i Gymru eu hwynebu yn yr ymgyrchoedd ar gyfer Cwpan y Byd 2019 FIFA ac Ewro 2017. Bydd y tîm hefyd yn chwarae dwy gêm gartref ar nos Wener pan fyddant yn wynebu Estonia ar 26 Hydref a Gwlad Groeg ar 26 Tachwedd.

Bydd ffefrynnau’r grŵp, sydd wedi’u graddio yn bedwerydd yn y byd, yn wrthwynebwyr heriol iawn oddi cartref ddydd Mawrth 30 Tachwedd a gartref ddydd Gwener 8 Ebrill. Bydd yr ymgyrch yn dod i ben gyda gemau oddi cartref i Wlad Groeg ar 2 Medi 2022 a gartref i Slofenia bedwar diwrnod yn ddiweddarach.

Bydd enillwyr y naw grŵp yn ennill lle yn y rowndiau terfynol a’r naw tîm a ddaw yn ail yn chwarae yn y gemau ail-gyfle a fydd yn digwydd fis Hydref 2022 gan alluogi dau dîm arall i ennill lle yn y rowndiau terfynol. Bydd trydydd tîm o gemau ail-gyfle UEFA yna’n cystadlu yng ngemau ail-gyfle’r ‘inter-confederation’, sef twrnamaint o ddeg tîm o chwe chonffederasiwn FIFA i benderfynu pwy sy’n cymryd y tri lle olaf.

“Mae’r timau i gyd yn wahanol a bydd pob un o’r gemau yn heriol mewn ffyrdd gwahanol,” meddai Grainger wrth ddysgu am ffawd Cymru. “I mi, does byth gemau hawdd mewn pêl-droed rhyngwladol. Mae gan bob tîm ei gryfderau a’i wendidau ei hun, ond mae’r ffocws i ni ar ein hunain. Dyna’r ffordd yr oedden ni’n meddwl yn y gwersyll diwethaf a dyna sut fyddwn ni’n meddwl yn yr ymgyrch ragbrofol yma hefyd.

“Rydyn ni’n gobeithio y gallwn ni gael y cefnogwyr y tu ôl i ni a rhoi’r fantais gystadleuol yna i ni. Mae’r gefnogaeth 'da ni’n ei chael gan y wlad gyfan yn gwneud i ni eisiau chwarae'r gorau gallwn ni. Gobeithio y bydd cefnogwyr yn y stand ar gyfer y gêm gyntaf ym mis Medi. Mae mor bwysig bod y cefnogwyr yn cael dychwelyd gan ein bod ni eisiau ysbrydoli pobl, felly mae’n bwysig iawn. Maen nhw’n rhan annatod o beth ydyn ni’n ei wneud.”

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×