Cipolwg ar Hanes Cymru

Cau cyfrifwyr y fath cyntaf

Yma mae John Carrier yn bwrw golwg manwl yn ôl ar gêm ryngwladol gyntaf menywod Cymru yn erbyn yr Alban yn ôl ym 1975.

Cafodd trydydd rheolwr Cymru ei benodi ym 1975. Ei enw oedd Billy Daniels, hyfforddwr profiadol ac uchel ei barch a gafodd ei eni yn Lloegr ond a symudodd i Dde Cymru gan weithio fel cynrychiolydd dros Mitre Sports. Roedd ei gêm gyntaf wrth y llyw dros ddwy ffin i ffwrdd oddi cartref yn Hamilton, Parc Douglas i fod yn fanwl gywir, a hynny ddydd Sadwrn 26 Ebrill ar gyfer gêm ryngwladol gyfeillgar yn erbyn yr Alban. Roedd y digwyddiad yn rhan o ddathliadau pumcanmlwyddol (500 mlynedd) Cyngor Dosbarth Hamilton.

Hon oedd pedwaredd gêm tîm cenedlaethol Cymru ers eu sefydlu ym 1972. Roedd y rhaglen, ar gael am gost o 5 ceiniog ac wedi’i chynhyrchu gan Gymdeithas Bêl-droed Menywod yr Alban, yn rhestru carfan 15 chwaraewr gydag ambell un wedi’i wahardd. Y garfan ar y diwrnod oedd Dianne Totty (Capten Prestatyn), Gillian Rowlands (Newport Nightingales), Linda James (Cope Chat), Gillian Maskell (Courthope), Ann Jenkins (Brighton & Hove Albion), Jayne Angove (Cardiff West End), Lesley Judd (Newport Nightingales), Shelley Walters (Cardiff West End), June Houldey (Cardiff West End), Mai Griffith (Prestatyn), Karen Wells (Prestatyn), Michele Adams (Port Talbot), Gloria O'Connell (Newport Nightingales), Debbie Pearson (Newport Nightingales), Julie Yale (Prestatyn).

Dyma fyddai’r tro olaf i’r tîm chwarae yn y crysau coch gyda’r tair pluen, a chwaraeodd yr Alban mewn cit gwyn mewn tîm a oedd yn cynnwys pum chwaraewr o Motherwell AEI, pencampwyr yr Alban ar y pryd ynghyd ag enillwyr amryw gwpanau. Gyda Bill Cranston wrth y llyw, a oedd yn ôl y sôn wedi’i benodi am un gêm, roedd y tîm dan gwmwl dadleuol gyda dwy o’u chwaraewyr mwyaf talentog, Edna Neillis and Rose Reilly (y chwaraewr mwyaf llwyddiannus o Brydain i fentro dramor i Ffrainc a’r Eidal) wedi’u gwahardd am oes rhag chwarae i’r Alban.

Er hynny, byddai’r Alban yn mynd yn eu blaenau i chwarae gêm fywiog yn erbyn Cymru ger bron tua 500 o gefnogwyr. Yr Alban aeth ar y blaen diolch i Diane McLaren (Dundee Strikers) ac roeddent â mantais o 2-0 am hanner amser. Wedi’r egwyl, daeth Cymru yn ôl gyda dwy gôl gan Gloria O'Connell a Shelley Walters. Ond yr Alban aeth a hi 3-2 yn y pen draw, gyda Mary Carr (Motherwell) yn sgorio. Ond mae’r sgoriwr coll yn parhau ar goll mewn hanes. Cafodd yr enillwyr eu gwobrwyo â medalau aur a thanceri, gyda Chymru yn cael rhywbeth tebyg, ond mewn arian.      

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×