Gair am Gymru

Yr ymgyrch ragbrofol ddiwethaf

Er gwaetha’r torcalon o golli allan ar Gwpan y Byd Menywod FIFA 2019 ar ddiwrnod olaf yr ymgyrch ragbrofol, roedd llawer yn credu go iawn y gallai’r tîm hwn greu hanes pan ddechreuodd y gemau rhagbrofol ar gyfer Ewros Menywod UEFA gydag ymweliad â’r Ynysoedd Ffaro yn ôl ym mis Awst 2019.

Ac fe wnaeth buddugoliaeth gadarn 6-0 wedi’i hysbrydoli gan hatric gan Natasha Harding gyfiawnhau’r gred honno o fewn y grŵp, a chynnig y dechrau perffaith i Jayne Ludlow a’i thîm.

Dychwelodd y tîm i chwarae fis yn ddiweddarach wrth i Ogledd Iwerddon ymweld â Rodney Parade yng Nghasnewydd, ac er i Gymru fynd ar ei hôl hi wedi gôl gynnar gan Simone Magill, tarodd Angharad James a Kayleigh Green y targed i roi’r tîm ar y blaen wrth i’r gêm fynd ymhell i amser anafiadau. Yna daeth ergyd boenus i unioni’r sgôr gan Ashley Hutton i rannu’r pwyntiau rhwng y ddau dîm, a dim dewis gan Gymru ond myfyrio ar yr hyn a fyddai wedi gallu bod.

Yn y cyfamser, ffrwydrodd ffefrynnau’r grŵp, Norwy, ymhell ar y blaen, gan sgorio saith yn erbyn Belarws ac 13 heb ildio’r un yn erbyn yr Ynysoedd Ffaro. Ond parhau a wnaeth dechrau diguro Cymru hefyd wrth i Rachel Rowe ddychwelyd o anaf hirdymor i sgorio unig gôl y gêm yn erbyn Belarws yn Barysaw, a daeth gêm gyfartal ddi-sgôr i ddilyn yn erbyn Gogledd Iwerddon ym Melfast ddiwedd 2019. Roedd hi’n ganlyniad allweddol a oedd yn rhoi’r fantais benben yn y grŵp i Ogledd Iwerddon dros Gymru ar goliau oddi cartref.

Yna, daeth y pandemig, ac oedi’r chwarae a’r rowndiau terfynol gyda’r penderfyniad i ohirio’r twrnamaint o 2021 i 2022. Dychwelodd Cymru i chwarae ym mis Medi 2020 gyda thaith anodd i Norwy, ac er iddynt berfformio’n eithriadol, cawsant eu trechu 1-0 trwy gôl gan Guro Reiten. Daeth buddugoliaeth 4-0 dros yr Ynysoedd Ffaro yng Nghasnewydd ym mis Hydref, ond unwaith eto fe gollodd y tîm 1-0 i Norwy yng Nghaerdydd, a chymhwyso erbyn hyn y tu allan i ddwylo Cymru.

Fe wnaeth Cymru beth oedd yn ofynnol ohonyn nhw wrth i goliau gan Harding, Rowe a Jess Fishlock fod yn ddigon i guro Belarws yn gyfforddus o 3-0, ond Gogledd Iwerddon a fanteisiodd ar y sefyllfa gan ennill eu dwy gêm derfynol i hawlio’r ail safle, er iddynt fynd gôl ar ei hôl hi yn erbyn yr Ynysoedd Ffaro ar y diwrnod terfynol. Daeth buddugoliaeth yn erbyn yr Wcráin yn y gemau ail-gyfle i ddilyn a nawr bydd Gogledd Iwerddon yn cystadlu mewn rownd derfynol twrnamaint mawr i fenywod am y tro cyntaf erioed yr haf nesaf.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×