Gair am Gymru

Y gemau diwethaf

CYMRU 1-1 DENMARC – Gêm ryngwladol gyfeillgar – 13 Ebrill 2021 – Stadiwm Dinas Caerdydd

Dim ond un newid oedd i dîm Cymru a oedd yn dechrau yn yr ail gêm ryngwladol gyfeillgar hon wrth i Josie Green gymryd lle Lily Woodham, ond roedd newid tactegol pwysig hefyd wrth symud y capten Sophie Ingle allan o’r amddiffynfa i’w hoff safle yng nghanol y cae.

Gyda’r ddau dîm yn mynd ati’n gadarnhaol, roedd hi’n ddechrau llawn cyffro, gyda Natasha Harding yn mwynhau llawer mwy o’r bêl i Gymru nag y gwnaeth yn erbyn Canada wrth iddi gwestiynu amddiffynfa’r gwrthwynebwyr. Yn y cyfamser, methodd yr ymwelwyr â throsi tri chyfle clir gyda phob ymdrech yn methu’r targed o drwch blewyn ac wrth i Ddenmarc brofi amddiffynfa Cymru ar ei newydd wedd gyda’u cyflymder a’u pasio siarp yn y traean olaf.

Capten Denmarc, Pernille Harder, a sgoriodd gyntaf ar ôl 24 munud wrth i seren Chelsea drechu Laura O'Sullivan yn y gôl i Gymru ar ôl cyfnod o bwyso parhaus gan Ddenmarc. Profodd gallu creadigol Harder yn anodd i Gymru ei reoli ac roedd cael eu gwthio yn ôl heb y bêl yn dod yn fwyfwy rhwystredig i’r tîm.

Roedd Cymru’n benderfynol wedi iddynt ail-gydio yn y gêm wedi’r hanner, a dangosodd y tîm fwriad clir i gymryd rhywbeth o’r gêm wrth iddynt wthio yn uchel i fyny’r cae gyda’u meddiant. Ar yr awr, sgoriodd Jess Fishlock i unioni materion wrth iddi ergydio’r bêl heibio’r gôl-geidwad o agos. Roedd hi’n gôl haeddiannol i’w gwneud hi’n gyfartal yn dilyn chwarae hyderus a phositif tîm Grainger a syfrdanodd yr ymwelwyr wrth iddynt gael trafferth ailgydio â’u momentwm blaenorol.

Cymru XI: O'Sullivan (GG), Evans, Ingle (C), R. Roberts, J. Green, James, K. Green, Fishlock, Harding, Rowe, Holland.

Eilyddion: Clark (GG), Soper (GG), Filbey, Ward, Williams, Hughes, Estcourt, B. Roberts, Woodham, Jones, Walters, Francis-Jones, F. Morgan, E. Morgan, Nolan.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×