Gair am Gymru

Y gemau diwethaf

CYMRU 0-3 CANADA –Gêm ryngwladol gyfeillgar – 9 Ebrill 2021 – Stadiwm Lecwydd, Caerdydd

Roedd gêm gyntaf Gemma Grainger wrth y llyw fel rheolwr Cymru yn erbyn tîm o Ganada a oedd wedi’i raddio’n wythfed yn y byd. Ymhlith carfan Cymru, roedd cyfoeth o brofiad diolch i Jess Fishlock a’r capten Sophie Ingle, ill dwy wedi ennill 100 cap dros eu gwlad ac yn cymryd rhan o’r dechrau ar ôl wythnos bositif o baratoi o dan y rheolwr newydd.

Ond, fe aeth Canada ar y blaen yn yr hanner cyntaf wrth i Deanne Rose osgoi sylw Lily Woodham i ganfod gofod ar y dde a chwipio ergyd bwerus heibio Laura O'Sullivan. Fe wnaeth y gôl esgor ar ymateb cadarnhaol gan Gymru, a daeth Kayleigh Green, yn ennill ei 50fed cap rhyngwladol, yn agos ychydig wedi hynny wrth i’r tîm cartref wthio ymlaen mewn niferoedd. 

Daeth anaf i gapten profiadol Canada, Christine Sinclair, a chafodd ei hamnewid ar ôl hanner awr wrth i Evelyne Viens ddod ar y cae. A’r eilydd Viens a fyddai’n dyblu’r fantais i Ganada gan drosi o agos cyn yr awr. Cafodd galwadau gan Gymru am gic o’r smotyn eu hanwybyddu, ond aeth yr ymwelwyr ymhellach ar y blaen ar ôl 62 munud diolch i gôl odidog gan Jessie Fleming gydag amddiffynfa Cymru yn cynhyrfu’n llwyr.

Roedd hi’n galonogol gweld Cymru yn ymateb yn bositif i ddwy gôl gyflym, ond prin iawn oedd y cyfleoedd clir, er i’r tîm holi sawl cwestiwn yn nhraean olaf y gêm. Efallai bod y pedair disgybledig yn y cefn wedi colli eu siâp tua’r diwedd, ond llwyddodd sioncrwydd bywiog y chwaraewyr canol cae i roi sylfaen i’r tîm wthio ymlaen fel uned.

Cymru XI: O'Sullivan (GG), Evans, Ingle (c), R. Roberts, James, K. Green, Fishlock, Harding, Rowe, Holland, Woodham.

Eilyddion: Clark (GG), Soper (GG), Filbey, J. Green, Ward, Williams, Hughes, Estcourt, B. Roberts, Jones, Walters, Francis-Jones, F. Morgan, E. Morgan, Nolan.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×