Gair am ein gwrthwynebwyr

Digwyddiad dadleuol yn chwalu breuddwydion Cwpan y Byd 

O dan arweiniad Shelley Kerr, fe wnaeth yr Alban fwynhau ymgyrch ragbrofol ragorol wrth iddynt gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd Menywod FIFA 2019 am y tro cyntaf yn eu hanes.

Gan golli dim ond un o’u wyth gêm ragbrofol, daethant i frig y grŵp o flaen y Swistir. Roedd Erin Cuthbert, Jane Ross a Kim Little yn ddylanwadol iawn o flaen y gôl wrth i’w tîm hawlio saith buddugoliaeth i fachu eu lle yn y rowndiau terfynol yn Ffrainc. 

Fel yn Ewro 2017, byddai’r Alban yn agor y twrnamaint gyda gêm yn erbyn Lloegr yn Nice. Ac er i Loegr sgorio dwy cyn hanner amser, daeth ymateb cadarn gan yr Alban yn yr ail hanner i haneru’r fantais pan sgoriodd Claire Emslie gyda dim ond 10 munud o’r gêm yn weddill. Ond daliodd tîm Phil Neville eu gafael yn y fuddugoliaeth, er roedd yr hyder o wthio eu gwrthwynebwyr mor agos yn hwb mawr i’r tîm wrth iddynt droi eu golygon at yr ail gêm grŵp yn erbyn Japan yn Rennes. Ond cawsant eu trechu 2-1 eto, gyda Lana Clelland yn sgorio gôl gysur hwyr. 

Byddai’r drydedd gêm yn cael ei chwarae ym Mharc des Princes ym Mharis wrth i’r Alban wynebu’r Ariannin yn un o’r gemau mwyaf dadleuol yn hanes tîm cenedlaethol yr Alban. Er gwaetha’r pwysau gan eu gwrthwynebwyr, daeth goliau gan Kim Little, Jennifer Beattie ac Erin Cuthbert i roi mantais o dair gôl i’r Alban gydag ychydig dros 20 munud yn weddill. Ond daeth yr Ariannin yn ôl i mewn i’r gêm trwy’r eilydd Milagros Menéndez ac wrth i’r gôl-geidwad Lee Alexander sgorio i’w rhwyd ei hun, a chawsant gic o’r smotyn yn yr eiliadau olaf pan ddyfarnodd VAR bod Sophie Howard wedi cyflawni trosedd yn erbyn Aldana Cometti.

Er mawr ryddhad, arbedodd Alexander ergyd Florencia Bonsegundo, a’r Alban yn credu bod y gêm wedi’i hennill. Ond daeth ymyriad arall yn sgil VAR wrth iddo ddyfarnu bod Alexander wedi dod oddi ar ei llinell cyn i’r bêl gael ei tharo. Aeth Bonsegundo amdani eto a sgorio gyda’i hail ergyd i adael yr Alban ar waelod y grŵp ar y chwiban olaf gyda gêm gyfartal 3-3.

“Mae hi’n anodd iawn nawr,” meddai rheolwr yr Alban, Shelley Kerr ar ôl y gêm. “Yn amlwg roedden ni 3-0 ar y blaen ac yn edrych yn eithaf cyfforddus. Fe newidiodd eu gôl gyntaf nhw bopeth. Am 70 munud roedden ni’n dda iawn, ond wnaethon ni ddim parhau â hynny tan y diwedd. Mae’n anodd iawn gwneud unrhyw sylwadau nawr, ond dwi’n meddwl yn bendant aeth ambell i benderfyniad yn ein herbyn ni. Cwpan y Byd ydy hwn, ac mae angen i’r swyddogion wneud y penderfyniadau cywir, a dwi’n meddwl aeth ambell un yn ein herbyn ni. 

“Mae’n eithriadol o siomedig. Ond wedi dweud hynny, dylen ni dal fod wedi rheoli’r gêm. Wnawn ni ddim cymryd hynny i ffwrdd, ond ie, eithriadol o siomedig. Mae fy emosiynau i – rydw i angen treulio ychydig o amser gyda’r chwaraewyr. Mae ein calonnau ni gyd wedi torri. Fe wnaethon ni roi cymaint i’r gêm yma. Yn anffodus, fe wnaethon ni adael tair gôl i mewn. Mae hi’n anodd iawn reit nawr. Mae popeth dal yn amrwd iawn. Mae angen i ni godi’r chwaraewyr, achos fe wnaethon ni roi popeth i mewn i’r gêm yna.”

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×