GAIR O GROESO GAN

ryan giggs

Pwy fyddai wedi meddwl ar ôl y noson wych honno a buddugoliaeth dros Hwngari yn ôl ym mis Tachwedd 2019 y byddai 10 mis yn mynd heibio cyn i ni chwarae ein gêm nesaf?!

Erbyn hyn, fe ddylen ni fod yn bwrw golwg yn ôl dros yr Ewros ac ymlaen tuag at Gwpan y Byd. Ond wrth gwrs, mae gennym ni dal yr Ewros i edrych ymlaen atynt a chanolbwyntio arnynt y flwyddyn nesaf.

Cyn i ni fwrw ein golygon tuag at y gêm yn erbyn Bwlgaria, hoffwn yn gyntaf dalu teyrnged a diolch o waelod calon i’n Gwasanaeth Iechyd Gwladol arbennig am eu hymdrechion yn ystod pandemig COVID-19, ac i’r gwaith y maen nhw a llawer o bobl eraill yn parhau i’w wneud. Un peth sy’n sicr – mae’r ychydig fisoedd diwethaf wedi rhoi mymryn o bersbectif i ni gyd.

Yn amlwg rydym ni wedi talu sylw agos at y canllawiau a’r protocolau synhwyrol y mae'n rhaid i ni fel grŵp eu dilyn wrth i ni ddynesu at gemau agoriadol Cynghrair Cenhedloedd UEFA.

I mi fel hyfforddwr, rydw i ar ben fy nigon yn cael bod allan ar y cae chwarae yn gweithio gyda’r chwaraewyr unwaith eto. Ein nod yw ennill y grŵp wrth gwrs, ond bydd hefyd yn gyfle i edrych ar rai o’n chwaraewyr ieuengach sydd bellach yn herio am eu lle yn y garfan. Mae chwaraewyr fel Neco Williams a Ben Cabango yn llawn haeddu eu cyfle, ac rydw i’n siŵr y byddant yn elwa o weithio ochr yn ochr â chwaraewyr fel Ashley Williams a Chris Gunter.

Bydd y gêm yn erbyn Bwlgaria yn cael ei chwarae y tu ôl i ddrysau caeedig. Does dim dwywaith y byddwn ni’n colli sŵn, angerdd a chefnogaeth y Wal Goch, yn sicr mae’r chwaraewyr a’r staff bob amser yn elwa o glywed Hen Wlad fy Nhadau yn atseinio drwy’r stadiwm.

Gobeithio na fydd hi’n rhy hir cyn i ni allu eich croesawu chi gyd yn ôl i’r stadiwm.

Yn y cyfamser, byddwch yn ddiogel ac yn synhwyrol yn ystod y cyfnod ansicr hwn.

Diolch,

Ryan

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×