Rhifyn Chwaraewyr FC CYMRU – Gôl-geidwaid ac Amddiffynwyr
Rhifyn Chwaraewyr FC CYMRU – Gôl-geidwaid ac Amddiffynwyr
Mae Gunter wedi chwarae mewn 97 o gemau i Gymru ers ei gêm gyntaf yn ei arddegau yn ôl yn 2007, ac mae wedi bod yn rhan annatod o uchafbwyntiau ac isafbwyntiau genedl dros y ddegawd a mwy o bêl-droed a ddilynodd. I ddathlu ei yrfa, dyma fwrw golwg yn ôl dros ei stori i Gymru drwy bum gêm sy’n ei ddiffinio.
Cap #1 – Cymru 2-2 Seland Newydd – 26 Mai 2007
Yn ddim ond 17 oed, cafodd Gunter ei ddyrchafu i’r tîm cyntaf gan y rheolwr John Toshack ar gyfer y gêm ryngwladol gyfeillgar hon yn erbyn Seland Newydd yn y Cae Ras. Ar ôl datblygu’n gyflym drwy’r timau canolraddol i chwarae ei gêm Dan 21 gyntaf ochr yn ochr â Gareth Bale fel chwaraewr 16 oed y flwyddyn flaenorol, roedd y gêm hon yn nodi dechrau gyrfa ryngwladol a fyddai’n gweld cefnwr-dde Dinas Caerdydd yn hawlio’r anrhydedd fwyaf i’w wlad.
Cap #35 – Cymru 4-1 Norwy – 12 Tachwedd 2011
Ar ôl sefydlu ei hun fel un o’r enwau cyntaf yn nhîm Cymru o dan Toshack, fe wnaeth Gunter barhau i berfformio’n gadarn ac yn gyson o dan y diweddar Gary Speed, ac roedd yn glir bod y tîm cenedlaethol wedi troi cornel ar ôl nifer o flynyddoedd rhwystredig gyda buddugoliaeth gyfeillgar bendant 4-1 hon yn erbyn Norwy yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Yn anffodus, hon fyddai gêm olaf Cymru o dan Speed.
Cap #62 – Bosnia a Herzegovina 2-0 Cymru - 10 Hydref 2015
Er mai hon oedd yr unig gêm i dîm Chris Coleman ei cholli yn yr ymgyrch ragbrofol ar gyfer Ewro 2016, fe barhaodd y dathliadau i oriau mân y bore. Er iddynt golli, fe wnaeth buddugoliaeth i Gyprus dros Israel y noson honno gadarnhau bod Cymru wedi llwyddo i gyrraedd y rowndiau terfynol yn Ffrainc. I Gunter a’r rheiny a oedd wedi rhannu’r daith ag ef, dyma oedd eu gwobr am flynyddoedd o boen yr oeddent wedi’i ddioddef gyda’i gilydd, ac fe wnaeth Gunter rannu angerdd y foment gyda’r Wâl Goch yn fwy ffyrnig nag unrhyw un yn Zenica.
Cap #72 – Cymru 3-1 Gwlad Belg - 1 Gorffennaf 2016
Chwaraeodd Gunter bob munud o bob gêm yn rowndiau terfynol Ewro 2016, a bydd rownd yr wyth olaf yn erbyn Gwlad Belg yn cael ei chofio am byth fel un o’r gemau gorau yn hanes y tîm cenedlaethol. Gan wthio ymlaen ar y dde a Chymru ar y blaen yng nghamau olaf y gêm, aeth Gunter yn groes i ddymuniadau Coleman a chroesi’r bêl, gan alluogi Sam Vokes i benio heibio gôl-geidwad Gwlad Belg Thibaut Courtois a selio’r fuddugoliaeth.
Cap #93 – Albania 1-0 Cymru – 20 Tachwedd 2018
Mewn amgylchiadau arferol, byddai hon wedi bod yn gêm gyfeillgar ddigon di-nod i ddod â’r calendr rhyngwladol i ben am y flwyddyn, ond roedd y realiti yn golygu llawer mwy. Roedd Gunter yn gapten ar Gymru ar y noson, wrth iddo dorri’r record am nifer yr ymddangosiadau yn hanes Cymru gyda chap rhif 93, gan ragori ar record Neville Southall a oedd wedi sefyll am dros 20 o flynyddoedd. Er nad oedd colli yn rhan o'r cynllun, roedd y cariad a ddangoswyd i Gunter gan y cefnogwyr a oedd wedi teithio yn dweud y cyfan am ei statws fel arwr cenedlaethol.
Update your browser to view this website correctly. Update my browser now