Cynghrair Cenhedloedd UEFA

YR YMGYRCH GYNTAF ERIOED

Mae carfan Ryan Giggs yn mynd i mewn i’r gemau olaf yng Nghynghrair B4 heb golli’r un gêm, a gyda llechen gwbl lân.

Gyda dwy gêm yn weddill yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon a’r Ffindir yng Nghaerdydd, Cymru yw’r ffefrynnau i aros ar frig y grŵp ac ennill dyrchafiad i Gynghrair A yn y broses. Er hynny, mae Giggs wedi gosod safon uchel i’w dîm yn y gystadleuaeth, ac ni fydd yn cymryd ein gwrthwynebwyr yn ganiataol yn y gemau tyngedfennol sy’n weddill.

Kieffer Moore oedd arwr Cymru yn y fuddugoliaeth agoriadol 1-0 yn erbyn y Ffindir yn Helsinki ym mis Medi. Manteisiodd y cawr o ergydiwr ar groesiad gan Daniel James gyda dim ond 10 munud o’r gêm yn weddill i roi’r dechrau perffaith i Gymru. "Roedd e’n berfformiad penderfynol a ddim fel y chwarae llyfn arferol sydd o fewn ein gallu ni,” meddai Giggs ar ôl y gêm.” Fe wnaeth y Ffindir bethau’n anodd i ni i fod yn deg iddyn nhw. Roedd hi’n gêm y gallwn ni ddysgu ohoni, ond hefyd yn un y gallwn ni gymryd lot o bethau cadarnhaol i ffwrdd hefyd gan ein bod ni wedi brwydro’n galed am y canlyniad eto.”

Bachodd Neco Williams y penawdau ychydig ddyddiau’n ddiweddarach wrth i Gymru groesawu Bwlgaria i Stadiwm Dinas Caerdydd. Ar ôl chwarae ei gêm ryngwladol gyntaf yn erbyn y Ffindir, daeth y chwaraewr ifanc o dîm Lerpwl oddi ar y fainc i sgorio unig gôl y gêm, a hynny yn eiliadau olaf amser anafiadau, mewn gornest a oedd fel arall yn un digon anghofiadwy. "Mae bod yn rhan o’r tîm yma fel bod yn rhan o deulu,” meddai Williams. “Mae pawb yn agos iawn ac yn helpu’r bechgyn ifanc, ac mae’r talent sydd gennym ni’n anhygoel. I’r chwaraewyr ‘fengach gael y cyfle, mae hynny’n deimlad gwych.”

Er i dîm Giggs sicrhau eu trydedd lechen lân yn y gêm gyfartal 0-0 yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yn Nulyn fis diwethaf, profodd i fod yn ornest i’w anghofio gyda chyfleoedd yn brin. Roedd croesawu Aaron Ramsey yn ôl wedi anaf yn newyddion da i Giggs, a chafodd canolwr Juventus ei wneud yn gapten ar gyfer y gêm. Ond gydag ymdrechion y naill dîm yn canslo ymdrechion y llall, gêm ddigon difflach a ddaeth o ganlyniad. Ond er hynny, parhau’n lân a wnaeth llechen Cymru cyn yr ymweliad â Sofia i wynebu Bwlgaria eto ddyddiau’n ddiweddarach.

A daeth buddugoliaeth 1-0 arall i Gymru diolch i gôl hwyr arall, gyda’r eilydd Jonny Williams yn dod oddi ar y fainc i ennill y gêm ar ôl 85 munud gydag ergyd a hanner i sgorio ei gôl ryngwladol gyntaf. “Ro’n i’n meddwl ein bod ni’n haeddu ennill,” meddai Giggs. “Dwi’n meddwl y byddai wedi bod yn gam pe na fydden ni wedi ennill heno. Fe wnaethon ni chwarae mor dda yn yr hanner cyntaf a dod yn agos. Fe wnaethon ni ddyfalbarhau, sy’n nodwedd dda i unrhyw dîm, i sgorio goliau hwyr. Mae’n foment balch iawn i dîm mor ifanc. Roedd yr ail hanner bach yn fratiog a byddant yn dysgu cymaint o hynny heno. Rydw i’n falch iawn ohonyn nhw gan eu bod nhw wedi dal i fynd a chwarae’r ffordd iawn.”

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×