Rhifyn Chwaraewyr FC CYMRU – Gôl-geidwaid ac Amddiffynwyr

Hanes Cymru Mewn Menig

Yn ddiweddar torrodd Wayne Hennessey record Neville Southall fel y gôl-geidwad â’r mwyaf o gapiau yn hanes tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru, a symud yn ail yn y rhestr o ymddangosiadau.

Gyda 186 o gapiau rhyngddyn nhw dros y 40 mlynedd diwethaf, dyma ddau o ffigurau mwyaf arwyddocaol yn hanes y tîm. Ond mae llawer mwy wedi sefyll yn gadarn yn y gôl i Gymru dros y blynyddoedd, ac fe ddechreuodd y cyfan o dan amgylchiadau trasig iawn.

David Thomson oedd gôl-geidwad cyntaf Cymru ac mae’n cael ei weld fel arloeswr y gêm yng Nghymru. Fel un o’r prif ffigurau y tu ôl i sefydlu Cymdeithas Bêl-droed Cymru, cafodd Thomson ei ddewis fel y gôl-geidwad ar gyfer y gêm gyntaf erioed, wrth i Gymru golli 4-0 yn erbyn yr Alban yn Partick yn ôl ym mis Mawrth 1876. Dyma ei ymddangosiad cyntaf ac olaf i Gymru, gan iddo farw’n sydyn ym mis Medi’r flwyddyn honno cyn cyrraedd 30 oed.

Yn ystod gweddill y 1800au, James Trainer a Robert Mills-Roberts oedd gôl-geidwaid rheolaidd Cymru, gyda’r ddau hefyd yn rhan o dîm enwog Preston North End a enillodd y dwbl domestig cyntaf erioed ym 1889. Fodd bynnag, Leigh Richmond Roose yw’r ffigwr sy’n cael ei gofio fwyaf o’r cyfnod cyn y rhyfel. Chwaraeodd yn y gôl 24 o weithiau i Gymru rhwng 1900 a 1911, ac yntau’n enwog am ei ddewrder a’i nodweddion ecsentrig, roedd Roose yn dipyn o gymeriad yn ei gyfnod.

Ymunodd Jack Kelsey ag Arsenal ym 1949 ar ôl cael ei ganfod yn chwarae i Winch Wen yng Nghynghrair Abertawe a’r Rhanbarth. Yna, chwaraeodd Kelsey 41 o gemau i Gymru rhwng 1954 a 1962, gan gynnwys gemau yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd FIFA ym 1958 yn Sweden. Gyda dros 300 o ymddangosiadau i Arsenal, mae Kelsey yn cael ei gofio fel un o fawrion y clwb a’i wlad. Daeth gŵr arall o Abertawe, Gary Sprake, i gymryd ei le yn y pen draw.

Treuliodd Sprake y rhan fwyaf o’i yrfa yn Leeds United, ac ef oedd gôl-geidwad ieuengaf erioed Cymru ar y pryd wrth chwarae ei gêm gyntaf yn erbyn yr Alban ym 1963 yn 18 oed. Byddai’n mynd ymlaen i chwarae 37 o gemau i’w wlad dros y ddegawd nesaf, gyda Dai Davies yn dod ar ei ôl ym 1975. Enillodd Davies 52 o gapiau yn ystod ei yrfa ryngwladol, gyda’r cawr mawr Neville Southall yn cymryd yr awenau, a’r menig, oddi wrtho ym 1982.

Ac yntau’n cael ei ystyried fel un o gôl-geidwaid gorau’r byd yn ei anterth, fe wnaeth Southall fwynhau llwyddiant domestig ac Ewropeaidd gydag Everton, ond collodd allan o drwch blewyn o gyrraedd twrnamaint mawr gyda Chymru. Chwaraeodd mewn 92 o gemau i’w wlad, ac ef oedd a’r record am fwy na 20 mlynedd tan i Chris Gunter ei gipio oddi wrtho yn 2018.

Byddai Paul Jones yn chwarae hanner canrif o gemau i Gymru rhwng 1997 a 2006, gyda’r gêm derfynol yn dod i ben gyda chrasfa 5-1 yn erbyn Slofacia yng Nghaerdydd, gêm sy’n cael ei chofio’n well am gôl gyntaf Gareth Bale i Gymru. Roedd hi’n gyfnod rhwystredig i Gymru, ond datblygodd Wayne Hennessey yn gyflym drwy’r rhengoedd i chwarae ei gêm gyntaf i Gymru ym mis Mai 2007. Ffigwr hynod ddylanwadol yn llwyddiant ei wlad i gyrraedd Ewro 2016 ac Ewro 2020, bydd Hennessey ar bigau’r drain i wella o’i anaf presennol a chyrraedd carreg filltir o 100 o gapiau.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×