Arwyr y gwrthwynebwyr

Jeff Agoos

 

Cafodd Jeff Agoos ei gyflwyno i’r ‘Soccer Hall of Fame’ Cenedlaethol yn 2009 ar ôl gwneud cyfanswm anhygoel o 134 o ymddangosiadau i dîm yr Unol Daleithiau rhwng 1988 a 2003.

Yn wir, fe ddaeth ymddangosiad rhif 134, a’r olaf i’w wlad, yn y gêm gyfeillgar yn erbyn Cymru yn California. Er iddo gael ei eni yn y Swistir, cafodd ei fagu yn Texas a threuliodd y rhan fwyaf o’i yrfa broffesiynol yn yr Unol Daleithiau, ac eithrio cyfnod byr yn yr Almaen gyda SV Wehen ym 1994 a chyfnod ar fenthyg yn Lloegr gyda West Bromwich Albion heb lwyddo i wneud yr un ymddangosiad.

Er gwaethaf ei statws yn y gêm, er syndod i bawb cafodd Agoos ei hepgor o garfan yr Unol Daleithiau ar gyfer Cwpan y Byd 1994 FIFA a fyddai’n cael ei chynnal yn America. Er iddo barhau i gynrychioli ei wlad wedi hyn, roedd yn aelod o’r garfan na chafodd ei ddefnyddio yng Nghwpan y Byd 1998 wrth i’r tîm fethu â’r gwneud hi allan o’r camau grŵp ar ôl colli tair gêm yn olynol. Fodd bynnag, fe ddaeth ei awr yn 2002 pan ddechreuodd ym mhob un o’r tair gêm grŵp yn y rowndiau terfynol yn Korea a Japan, cyn i anaf roi stop ar weddill ei dwrnamaint wrth i’r Unol Daleithiau fwynhau eu safle gorau erioed yn yr wyth olaf. “Mae’n rhaid i chi chwarae gyda’ch pen a’ch calon,” yn ôl un o ddyfyniadau enwog Agoos. “Gallwch chi ddim chwarae gydag un, na’r llall, neu mi fyddwch chi’n cael eich lladd.”

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×