Arwyr y gwrthwynebwyr

MARCELO BALBOA

Yr amddiffynnwr Marcelo Balboa oedd y chwaraewr cyntaf i ennill 100 o gapiau ar gyfer tîm cenedlaethol yr Unol Daleithiau yn ystod gyrfa ryngwladol a barhaodd dros ddegawd rhwng 1988 a 2000.

Chwaraeodd mewn cyfanswm o 127 o gemau i’w wlad, gan sgorio 13 o goliau yn y broses ar ôl chwarae ei gêm gyntaf yn erbyn Guatemala. Ffigwr allweddol yn amddiffynfa’r tîm cenedlaethol, ymddangosodd Balboa yn rowndiau terfynol tri Chwpan y Byd yn olynol, gan gynrychioli e wlad yn y gystadleuaeth ym 1990, 1994 ac eto ym 1998. Treuliodd Balboa y rhan fwyaf o’i yrfa clwb mewn ‘Major League Soccer’, gan dreulio pum tymor gyda’r Colorado Rapids.

“Rydw i’n cael trafferth siarad amdana i fy hun,” meddai Balboa gan adlewyrchu ar ei Gwpan y Byd cyntaf. “Roedd e’n llawer mwy nag unigolyn yn unig. Roedd gennym ni grŵp o tua 20 o chwaraewyr, roedden ni’n dîm, fe wnaethon ni frwydo a chyrraedd Cwpan y Byd 1990. Yr holl chwaraewyr ‘na, Eric Wynalda, John Harkes, Tab Ramos, ni oedd y grŵp craidd. Fe wnaethon ni aberthu llawer i wneud yn siŵr fod pêl-droed yn cydio. Roedden ni’n chwarae o flaen tua 5,000 o gefnogwyr ar noson dda. Ond fe wnes i fwynhau pob eiliad. Nid dim ond chwaraewyr pêl-droed ydyn ni, ond y lleisiau hefyd i wneud yn siŵr fod pêl-droed yn cael lle. Ges i wastad fy nysgu fel plentyn os ydych chi’n gwneud rhywbeth, i’w wneud o’n iawn. Os na, gwnewch i wneud rhywbeth arall. I mi, pêl-droed oedd bywyd.” 

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×