Newyddion rhwystredig i Gymru o glywed am ganslo’r twrnamaint dan 19

 

Bu’n flwyddyn rwystredig i Rob Edwards a'i garfan dan 19 yn dilyn y penderfyniad i ganslo twrnamaint dan 19 UEFA.

Llwyddodd Cymru i gyrraedd y rownd Elît fis Tachwedd diwethaf ac o ganlyniad roedd disgwyl iddynt wynebu Awstria, yr Almaen a Serbia ym mis Mawrth. Yn anochel, gohiriwyd y gemau yn sgil y pandemig, a hynny tan fis Medi, ond gohiriwyd y gemau unwaith yn rhagor hyd at fis Hydref, ac yna mis Tachwedd, cyn canslo’r twrnamaint yn gyfan gwbl. Gwnaed y penderfyniad am resymau iechyd a diogelwch, ac er mwyn lleihau'r baich ariannol ar gymdeithasau cenedlaethol yn ystod y cyfnod heriol hwn. Cymru oedd ar frig y grŵp, ond ni fydd y grŵp penodol hwn yn cael y cyfle i weld pa mor bell y byddant wedi gallu mynd, a hynny wrth feddwl nad yw Cymru erioed wedi cyrraedd rowndiau terfynol y gystadleuaeth hon o'r blaen. 

Roedd Neco Williams yn un o chwaraewyr disgleiriaf Cymru yn ystod rownd gyntaf y gemau rhagbrofol. Dechreuodd y rownd gyntaf honno mewn steil, wrth i gôl yr un gan Joe Adams, Sam Pearson a Keenan Patten sicrhau buddugoliaeth 3-0 i Gymru yn erbyn Gwlad Pwyl yn Rodney Parade, Casnewydd. Roedd dwy gic o’r smotyn gan Williams yn ddigon i hawlio pwynt yn erbyn Rwsia mewn gêm gyfartal 2-2 yn yr ail gêm, ond cadarnhawyd eu lle yn rownd yr Elît ar y diwrnod pan sgoriodd Harry Pinchard a Williams gôl yr un i gipio buddugoliaeth 2-0 yn erbyn Kosovo. Ers hynny, mae Williams wedi sefydlu ei hun yn nhîm cyntaf Ryan Giggs, gan sgorio’r gôl fuddugol yn erbyn Bwlgaria yng ngêm Cynghrair y Cenhedloedd UEFA ym mis Medi.

Penderfynodd Pwyllgor Gweithredol UEFA ganslo gweddill y twrnamaint fis diwethaf. Roedd y twrnamaint yn gweithredu hefyd fel rownd ragbrofol ar gyfer cystadleuaeth Cwpan y Byd Dan 20 FIFA, cystadleuaeth y bwriedir ei chynnal yn Indonesia rhwng 20 Mai a 12 Mehefin 2021. Penderfynwyd dyrannu'r pum slot a neilltuwyd ar gyfer timau Ewropeaidd yn y gystadleuaeth i'r timau a gyrhaeddodd pum safle uchaf rownd ragbrofol UEFA ar gyfer tymor 2019/20 (coefficient ranking). O ganlyniad, Lloegr, Ffrainc, yr Eidal, yr Iseldiroedd a Phortiwgal fydd y cynrychiolwyr Ewropeaidd a enwebir i gymryd rhan yng Nghwpan y Byd Dan 21 FIFA.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×