Moldofa dan 2
Moldofa dan 2
Ers eu hymgyrch gychwynnol ym 1996, mae'r tîm wedi methu â chyrraedd rowndiau terfynol 13 o’r cystadlaethau Ewro Dan 21 UEFA blaenorol. Ond mae eu llwyddiant nhw wedi bod yn y chwaraewyr hynny sydd wedi codi drwy'r rhengoedd i'r tîm cyntaf yn ystod y ddau ddegawd diwethaf. Er eu diffyg llwyddiant wrth gymhwyso, mae'r tîm wedi ennill 30 o’u 119 o gemau cystadleuol, ac wedi ennill hanner eu gemau rhagbrofol yn ystod ymgyrchoedd rhagbrofol 2009 a 2015. Eu buddugoliaeth fwyaf hyd heddiw yw gorchest 5-1 yn erbyn Georgia ym mis Chwefror 2006, gêm a chwaraewyd yn Valletta, Malta. Digwyddodd crasfa waethaf y tîm yn gynnar yn eu hanes wrth i Wlad Groeg hawlio buddugoliaeth bendant o 8-0 ym mis Hydref 1996. Mae Cymru a Moldofa wedi dod benben mewn gemau cystadleuol bum gwaith yn flaenorol, gyda dwy fuddugoliaeth yr un, ac un gêm gyfartal.
Update your browser to view this website correctly. Update my browser now