Ewro Dan 21 UEFA 202

Egluro’r ymgyrch ragbrofol

O ganlyniad i bandemig COVID-19, bydd rowndiau terfynol Ewro Dan 21 bellach yn cael eu cynnal dros ddau gyfnod, gyda’r lleoliadau gwreiddiol, Hwngari a Slofenia yn dal i gynnal y gemau grŵp a'r gemau terfynol.

Cafodd y penderfyniad ei gymeradwyo gan Bwyllgor Gweithredol UEFA ym mis Mehefin. Bydd naw enillydd y grwpiau, a’r pum tîm a ddaw yn yr ail safle gorau yn ymuno â Hwngari a Slofenia ar gyfer gemau grŵp a fydd yn cynnwys pedwar grŵp o bedwar tîm rhwng 24 a 31 Mawrth 2021. Bydd gemau’n cael eu cynnal yn Hwngari a Slofenia. Yna, bydd enillwyr y pedwar grŵp a’r pedwar a ddaw yn ail yn gymwys ar gyfer y twrnamaint olaf. Bydd rownd yr wyth olaf a’r rowndiau cynderfynol yn cael eu cynnal yn Hwngari a Slofenia, a’r rownd derfynol yn Ljubljana, rhwng 31 Mai a 6 Mehefin 2021.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×