Yr wythnos hon mewn hane

Cymru Dan 21 1-0 Awstria dan 21 – 17 Tachwedd 2010

Daeth dros 1,000 o gefnogwyr i Stadiwm Casnewydd i wylio tîm Dan 21 Brian Flynn yn hawlio buddugoliaeth 1-0, diolch i gôl gan yr eilydd Elliott Chamberlain.

Cafodd Billy Bodin, mab y rheolwr dan 21 presennol Paul, ei gynnwys yn y tîm cychwynnol, tra bod Jazz Richards a Jonny Williams yn ddau a oedd yn rhan o’r gêm honno ac a fyddai’n mynd ymlaen i fod yn rhan o garfan Ewro 2016 Chris Coleman. Erbyn hyn, mae gôl-geidwad Awstria Heinz Lindner yn rhan o'r garfan gyntaf ac wedi ymddangos 28 o weithiau dros ei wlad.

Cymru Dan 21 XI:  Taylor, Stephens, Bloom, Alfei, Craig, Richards, Partington, Lucas, Bodin, Ogleby, Doble.

Eilyddion: Cornell, Dummett, Brown, Bender, Chamberlain, Williams, Thomas.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×