FC Cymru

Diweddariad Domestig

Dechreuodd tymor 2020/21 JD Cymru Premier ganol mis Medi, ac mae eisoes yn profi i fod yn un o’r ymgyrchoedd mwyaf rhyfedd yn hanes weddol fyr yr uwch gynghrair ddomestig. O brotocolau COVID llym i chwarae gemau y tu ôl i ddrysau caeedig, mae’r tymor yn debygol o gael ei gofio am lawer o bethau heblaw am y pêl-droed, wrth i Nomadiaid Cei Connah geisio amddiffyn eu teitl.

“Rydym ni wedi gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod clybiau’n cael statws elît a oedd yn golygu ein bod ni’n gallu dychwelyd i chwarae y tu ôl i ddrysau caeedig,” eglurodd Ysgrifennydd Cymru Premier, Gwyn Derfel ar ddechrau’r tymor newydd. “Mae galw ar y clybiau i ddiogelu iechyd a diogelwch pawb. Mae gennym ni gyfrifoldeb, ac os ydyn ni eisiau i bêl-droed ddychwelyd yn llawn a gyda chefnogwyr yn y pen draw, mae’n rhaid i ni fod yn gyfrifol. Mae hwn yn gyfnod anodd iawn ac mae’r gynghrair eisoes wedi dechrau pum wythnos yn hwyr. Rydym ni’n cynnal trafodaethau wythnosol â Llywodraeth Cymru er mwyn cyfathrebu ein pwyntiau ac wedi ceisio sicrhau bod Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) a chlybiau aelod yn tynnu i’r un cyfeiriad. Rydym ni’n cydnabod fod hwn yn gyfnod heriol iawn, ond rydym ni’n hyderus y byddwn ni’n cael tymor ystyrlon eleni.”

Wrth gwrs, mae’r sefyllfa anarferol yn golygu cryn dipyn o heriau i’n clybiau, wrth i Brif Swyddog Gweithredol y Seintiau Newydd, Ian Williams, egluro yn ddiweddar i Sgorio. “Rydym ni mewn cyfnod rhyfedd iawn. Un o’r heriau yn amlwg yw ceisio dod o hyd i arian i gefnogi’r clybiau, nid yn unig yn y tymor byr, ond yn yr hirdymor hefyd. Y peth pwysig yw cynaliadwyedd i bob un o’n clybiau, a’r cynharaf y gallwn ni gael y cefnogwyr i mewn yn gwylio y gorau fel bod arian yn dod i mewn i glybiau. Ond nid hynny’n unig, mae refeniw masnachol, lletygarwch, bariau ar arlwyo, felly arian a chyllid yn bendant yw’r prif heriau rydym ni’n eu hwynebu.

“Rydym ni’n gweithio’n agos iawn gyda CBDC, ac yn ddiweddar rydym ni wedi sefydlu gweithgor, a’r peth pwysig yw bod y gweithgor yn cael ei yrru gan glybiau. Y clybiau sydd wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau, ac rydym ni’n ceisio dod o hyd i atebion i’r problemau ariannu sydd wir eu hangen ar glybiau er mwyn gallu goroesi. Rydym ni wedi cael trafodaethau cadarnhaol iawn gyda CBDC ac wedi edrych ar nifer o lwybrau lle gallwn ni gael mynediad at arian. Mae FIFA wedi rhoi arian i bob cymdeithas, felly rydym ni’n edrych ar grantiau FIFA ar gyfer pob un o’r clybiau. Mae’r Gynghrair Genedlaethol yn Lloegr, a chlybiau yng Ngogledd Iwerddon dwi’n credu, oll wedi cael arian drwy’r Loteri Genedlaethol, felly rydym ni wrthi’n negodi ar hyn o bryd i geisio sicrhau ychydig o arian a fydd yn helpu ein clybiau.”

Mae Uwch Gynghrair Menywod Cymru Orchard hefyd wedi dychwelyd ar ôl cael statws elît, ond nid yw pêl-droed o dan y prif gynghreiriau wedi ail-ddechrau mewn unrhyw ffordd gystadleuol. Tra bod y sefyllfa yn rhwystredig i bawb dan sylw, diogelwch sy’n dod gyntaf, ac mae pob ymdrech yn cael ei wneud i ddod a’r gêm yn ôl mor gyflym â phosibl ar draws y byd pêl-droed yng Nghymru.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×