RHIFYN CHWARAEWYR FC Cymru – CANOL CAE

CHWARAE AMRYDDAWN YN ALLWEDDOL I AMPADU AC INGLE

 

Mae cymhlethdodau tactegol y gêm fodern yn golygu bod gofyn i chwaraewyr addasu ac esblygu i chwarae mewn gwahanol safleoedd, ac mae timau cenedlaethol y dynion a’r menywod yn ffodus o gael llond llaw o chwaraewyr sydd â'r gallu technegol i chwarae yng nghanol y cae ac yn y safle amddiffyn.

Trwy gydol eu cyfnodau yn chwarae i wahanol glybiau ac i’w gwlad, mae Ethan Ampadu a Sophie Ingle wedi chwarae mewn safleoedd amddiffynnol ac yng nghanol y cae, ac mae'r ddau yn hapus i chwarae ym mha bynnag safle y mae eu hangen i Gymru.

“Dwi’n gallu chwarae fel cefnwr canol neu ar ganol y cae,” esboniodd Ampadu mewn cyfweliad diweddar. “Yn bersonol, dydw i ddim yn ffafrio un safle dros y llall. Dwi’n teimlo'n gyffyrddus yn chwarae yn unrhyw un o'r safleoedd hyn. Hoffwn feddwl fy mod i’n hyblyg, fy mod i'n gyffyrddus, a ‘mod i’n hoffi mynd ar y bêl a dechrau ymosod ac adeiladu ar fy ngwaith. Hoffwn i feddwl fod gen i lawer o egni. Dwi’n gwybod mod i'n ifanc, ond dwi’n meddwl mod i’n gallu gwneud penderfyniadau da gyda’r bêl a helpu timau i ddechrau o'r cefn."

 hithau’n ffigwr dylanwadol yn y canol i Chelsea yn Uwch Gynghrair Menywod yr FA, mae Ingle wedi profi digon o lwyddiant domestig yn ddiweddar. Mae wedi sgorio sawl gôl hanfodol yn y gynghrair ac yn Ewrop, ond fel capten ei gwlad, rydym ni’n ei gweld yn arwain y tîm o ganol yr amddiffynfa, gan sicrhau eu bod yn cynnal y record amddiffynnol gadarn sydd wedi bod yn gonglfaen i gynnydd y tîm yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Er bod Ampadu ar fenthyg yn Sheffield United ar hyn o bryd, mae'n ddiddorol nodi bod y ddau yn chwarae i Chelsea, ac yn rhannu’r gallu fel chwaraewyr hyblyg sy'n eu gwneud yn ffigurau allweddol ar gyfer Cymru. Mae gan y ddau ddawn eithriadol i drin y bêl, ac mae eu gallu i ddarllen y gêm wedi bod yn ffactor allweddol yn eu perfformiad.

Mae chwarae hyblyg ac amryddawn Ingle wedi bod yn allweddol i Chelsea a Chymru, gyda’i gallu i amddiffyn yn caniatáu iddi gipio’r bêl mewn safleoedd dwfn a manteisio ar ei phasio hir. I Gymru, mae ei gallu i ddarllen y gêm wedi bod yn hanfodol i'w llinell amddiffynnol. “Rydyn ni wedi creu perthynas amddiffynnol dda, ac mae’r canlyniadau yn tystio i hynny,” meddai Ingle yn ddiweddar. “Nid gwaith yr amddiffynwyr yn unig sydd i gyfrif, mae’r chwaraewyr o’n blaenau ni yn gweithio cyn galeted i gyfyngu ar gyfleoedd ein gwrthwynebwyr, a dwi’n credu ein bod yn gwneud hynny’n eithaf da. Dyma beth rydyn ni'n dda iawn yn ei wneud, yn enwedig fel unigolion.”

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×