RHIFYN CHWARAEWYR FC Cymru – CANOL CAE

Y DIWEDDAR GARY SPEED – PUM GÊM ARWYDDOCAOL

Prin fod ffigwr mwy poblogaidd yn hanes tîm cenedlaethol Cymru na Gary Speed, ac rydym yn ei gofio fel un o chwaraewyr canol cae gorau Cymru.

Rhwng 1990 a 2004, ymddangosodd Speed 85 o weithiau dros Gymru, ac fe wnaeth ei yrfa clwb ymestyn dros ddau ddegawd a bron i 700 o gemau i Leeds United, Everton, Newcastle United, Bolton Wanderers a Sheffield United. Roedd Speed yn arwain Cymru at gyfnod newydd a chyffrous fel rheolwr pan fu farw naw mlynedd yn ôl i’r mis hwn, ac i ddathlu ei lwyddiant dyma bum gêm fwyaf arwyddocaol ei yrfa chwarae dros Gymru.

Cap #1 - Cymru 1-0 Costa Rica - 20 Mai 1990

Roedd gôl Dean Saunders yn ddigon i dîm Terry Yorath allu hawlio buddugoliaeth dros Costa Rica mewn gêm gyfeillgar ryngwladol ym Mharc Ninian. Ag yntau ar y fainc ar gyfer ei gêm gyntaf i’r tîm cyntaf, cymerodd Speed le Paul Bodin ar ôl 75 munud i ennill y cyntaf o'i 85 cap dros ei wlad. Yn dilyn ei farwolaeth, chwaraeodd Cymru yn erbyn Costa Rica eto mewn gêm goffa yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Cap #7 - Cymru 1-0 Brasil – 11 Medi 1991

Er i Gymru drechu pencampwyr y byd, yr Almaen, gyda’r un sgôr ychydig fisoedd cyn y fuddugoliaeth gofiadwy hon, dim ond yn eiliadau olaf y fuddugoliaeth honno y cafodd Speed chwarae. Fodd bynnag, bu ar y cae o’r cychwyn cyntaf yn y gêm hon yn erbyn Brasil a chwaraeodd y 90 munud yn llawn. Fel yn y gêm yn erbyn Costa Rica, Saunders oedd arwr Cymru unwaith eto ym Mharc yr Arfau Caerdydd.

Cap #23 - Cymru 1-2 Rwmania - 17 Tachwedd 1993

Roedd y garfan hon yn un gref, carfan a oedd yn cynnwys Ian Rush, Neville Southall a Ryan Giggs, yn ogystal â Speed ei hun. Roedd methu â chyrraedd rowndiau terfynol twrnamaint mawr yn ergyd drom felly. Yn y gêm dyngedfennol hon yn erbyn Rwmania, methodd Cymru â sicrhau lle yng Nghwpan y Byd FIFA 1994, a daeth diwedd cyfnod wrth i Terry Yorath adael ei swydd o’r herwydd. Chwaraeodd Speed y gêm ar ei hyd, ond ni allai atal tîm rhagorol Rwmania rhag hawlio eu lle yn y twrnamaint.

Cap #32 - Cymru 1-0 Moldofa - 6 Medi 1995

Er iddo chwarae 85 o gemau dros ei wlad gan sgorio saith gôl, ni sgoriodd Speed lawer o goliau pwysig yn ystod ei yrfa gyda Chymru. Fodd bynnag, newidiodd hyn ym mis Medi 1995 pan sgoriodd unig gôl y gêm i dîm Bobby Gould mewn buddugoliaeth ragbrofol Ewro 1996 yn erbyn Moldofa. Sgoriodd ar ôl 55 munud, ond unwaith yn rhagor, methodd y tîm â dathlu ar ddiwedd yr ymgyrch ragbrofol.

Cap #70 - Cymru 2-1 Yr Eidal - 16 Hydref 2002

Dyma un o’r perfformiadau a’r canlyniadau mwyaf cofiadwy mewn cenhedlaeth. Croesawodd Cymru Mark Hughes yr Eidal i Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd ar gyfer gêm ragbrofol Ewro 2004. Sgoriodd Simon Davies yn gynnar yn yr ornest, gan roi hwb enfawr i gefnogwyr Cymru, ond sgoriodd Alessandro Del Piero i ddod â’r sgôr yn gyfartal cyn hanner amser. Fodd bynnag, roedd y gorau eto i ddod, wrth i Craig Bellamy sgorio'r gôl fuddugol ar ôl 70 munud. Yn anffodus, methodd y tîm â chymhwyso yn y pen draw wedi iddynt golli yn y gemau ail-gyfle yn erbyn Rwsia, a chafodd Speed ei amddifadu o’r cyfle i gynrychioli Cymru ar y llwyfan fwyaf.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×