GWERINIAETH IWERDDON
Ag yntau’n gyn chwaraewr pêl-fasged rhyngwladol, dechreuodd Randolph ar ei yrfa bêl-droed gyda Charlton Athletic.
Yn dilyn symud sawl gwaith ar fenthyciad drwy haenau is clybiau Lloegr rhwng 2004 a 2010, daeth y gôl-geidwad i amlygrwydd yn yr Alban gyda chlwb Motherwell, cyn symud i Birmingham City a Middlesbrough, ac mae bellach yn ei ail gyfnod gyda West Ham United. Mae Randolph wedi chwarae i Weriniaeth Iwerddon ar lefel dan 15, dan 16, dan 17, dan 19, dan 21, tîm B a’r tîm cyntaf, gan ymddangos bron i hanner cant o weithiau ers ei gêm gyntaf ar y lefel ryngwladol fel eilydd mewn buddugoliaeth gyfeillgar yn erbyn Oman ym mis Medi 2012.