Rhifyn Chwaraewyr FC CYMRU – Yr ergydwyr

Y Mawreddog Billy Meredith

Mae nifer o chwaraewyr gwych wedi cynrychioli Cymru dros y blynyddoedd, o Gareth Bale a’r rheolwr presennol Ryan Giggs, i arwyr yr oes a fu fel John Charles, fel cenedl rydym ni wedi cael ein bendithio gyda rhai o’r sêr disgleiriaf.

Er hynny, un o sêr mwyaf ei gyfnod oedd un o enwogion mwyaf y gêm. Roedd Billy Meredith yr un mor ddadleuol ag yr oedd wych, ac mae ei hanes yn cynnwys yr un lefel o sgandal oddi ar y cae ag y mae’n ei chynnwys o goliau ac eiliadau hudolus ar y cae!

Cafodd ei eni yn y Waun, neu Chirk, ym 1874. Yn ystod ei yrfa chwarae, fe chwaraeodd i Manchester City dros 300 o weithiau rhwng 1894 a 1906, ac yna aeth ymlaen i chwarae 300 o gemau i Manchester United. Roedd dal wrthi’n chwarae yn 49 oed, a daeth â’i yrfa i ben yn Manchester City ar ôl chwarae dros 700 o gemau. Roedd yn ffigwr dylanwadol iawn i Gymru rhwng 1895 a 1920, gan sgorio 11 o goliau mewn 48 o gemau i’w wlad.

Roedd yn chwaraewr proffesiynol a oedd yn rhoi popeth i’r gêm, a doedd Meredith ddim yn yfed nac yn ysmygu mewn cyfnod lle’r oedd arferion gwael o’r fath nid yn unig yn cael eu derbyn, ond hefyd yn cael eu hannog! Ond doedd y drama byth yn bell, a chafodd ei wahardd am flwyddyn ym 1905 am ei ran mewn sgandal taflu gemau neu ‘match fixing’. Yn ogystal, heriodd Meredith awdurdodau’r cyfnod drwy ymgyrchu i gael gwared ar yr uchafswm cyflog ar gyfer chwaraewyr, a hefyd drwy drefnu’r Undeb Chwaraewyr gyda’r gobaith o wneud newidiadau ffurfiol i’r system drosglwyddo a chyflogau a oedd ar waith.

Yn ystod ei yrfa enillodd Gwpan Cymru gyda’r Waun a Chwpan FA gyda’r ddau glwb o Fanceinion. Arloeswr ar y cae, ac oddi arno, gosododd Meredith safon uchel o broffesiynoldeb, gan olygu ei fod yn cael ei ystyried yn un o chwaraewyr gorau cyfnod cynnar y gêm. Ond ei weledigaeth ar gyfer gwella’r amgylchedd chwarae ar gyfer chwaraewyr proffesiynol sy’n ei bortreadu fel pêl-droediwr a oedd o flaen ei amser.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×