Rhifyn Chwaraewyr FC CYMRU – Yr ergydwyr

John Toshack ac oes gyfan mewn pêl-droed 

Mae rhai unigolion wedi’u geni i fod yn chwaraewyr gwych, ac eraill wedi’u geni i hyfforddi a rheoli, ond mae ambell un prin sy’n cyrraedd y lefel uchaf yn y ddau.

Mae John Toshack yn un o’r rhain. Yn ystod gyrfa chwarae lwyddiannus a barhaodd dau ddegawd, fe hawliodd lwyddiant domestig ac Ewropeaidd gyda Lerpwl, a chwaraeodd 40 o gemau i Gymru drwy gydol y 1970au. Daeth ei gyfle i gamu i’r byd rheoli yn gynnar wrth iddo gymryd yr awenau yn Abertawe fel chwaraewr-rheolwr ym 1978, a daeth tua phedwar degawd yn y ‘dugout’ i ddilyn.

Fel partner ymosodol Kevin Keegan yn Lerpwl, hawliodd Toshack dri theitl cynghrair, Cwpan FA Lloegr, Cwpan UEFA a ‘Super Cup’ UEFA yn ystod ei gyfnod yn Anfield. Fel rheolwr, fe sicrhaodd lwyddiant yn syth yn Abertawe, gan fynd a’r clwb trwy’r Gynghrair Bêl-droed i’r haen uchaf rhwng 1978 a 1981 mewn stori sy’n parhau yn rhan o chwedl y clwb. Ac mae’n dal i gael ei ddathlu heddiw gan y rheiny a arferai sefyll ar North Bank yr hen Vetch.

Ond dim ond y dechrau oedd y llwyddiant hwnnw i Toshack, mae ei yrfa rheoli dros y 40 mlynedd wedi hynny wedi mynd ag ef o gwmpas Ewrop a’r byd. Mae dau gyfnod gyda Real Madrid, lle enillodd y La Liga ym 1990, ar frig ei CV, ond ei waith fel rheolwr Cymru rhwng 2004 a 2010 sydd bellach yn cael ei ddathlu, er bod y canlyniadau a’r perfformiadau wedi ennill cryn ddirmyg iddo ar y pryd. Penderfynodd Toshack y byddai’n dangos i’r genhedlaeth nesaf yn gynnar pa mor ddidrugaredd yw pêl-droed rhyngwladol mewn gwirionedd, ac mae’r rheolwyr olynol Gary Speed, Chris Coleman a nawr Ryan Giggs oll wedi elwa o’r weledigaeth hon.

Ac yntau nawr yn 71, roedd ei swydd reoli ddiwethaf gyda Tractor SC yn Iran yn 2018. Cyn hynny roedd yn Morocco gyda Wydad Casablanca, yn Azerbaijan gyda Khazar Lankaran, a chyn hynny roedd wrth y llyw gyda thîm cenedlaethol Macedonia. “Dydw i erioed wedi cael unrhyw drafferth unrhyw le,” meddai Toshack y llynedd cyn lansio ei hunangofiant. “Lle bynnag yr ewch chi, mae’n rhaid i chi ddysgu’r iaith a’r diwylliant y gorau gallwch chi. Ac yna, os ydych chi’n gwneud camgymeriad, mae pobl yn dueddol o faddau i chi. Dwi’n meddwl mai un o’r pethau gorau wnes i oedd mynd ar fy mhen fy hun. Ro’n i’n gweithio gyda phobl y clwb, ac roedden nhw’n gwybod mod i’n barod i fod yn agored.”

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×