Y Ffindir
Aelod profiadol o’r tîm a chwaraeodd ei gêm ryngwladol gyntaf yn 2009, mae Sparv bellach yn chwarae ei bêl-droed yng Ngwlad Groeg gyda Larissa ar ôl cynrychioli timau yn Sweden, y Ffindir, yr Iseldiroedd, yr Almaen, Denmarc a Lloegr gyda Southampton ar ôl datblygu trwy dimau ieuenctid y clwb.
Yn ystod ei gyfnod gyda Midtjylland, enillodd Sparv gynghrair Denmarc dair gwaith. Cawr o ddyn sydd hefyd yn gallu chwarae mewn rôl fwy amddiffynnol, mae Sparv wedi ymddangos i’w wlad mwy na 75 o weithiau, gan sgorio ei unig gôl hyd yn hyn yn erbyn Gogledd Iwerddon ym Melfast yn ôl ym mis Awst 2012 mewn gêm gyfeillgar gyfartal 3-3.