FC CYMRU – RHIFYN AMERICA

CHRIS COLEMAN A’R DAITH A DDECHREUODD YN ERBYN MECSICO

Mae nifer o gemau a fydd yn diffinio cyfnod llwyddiannus Chris Coleman wrth y llyw fel rheolwr Cymru am byth.

O’r fuddugoliaeth gyntaf honno yn erbyn yr Alban yng Nghaerdydd i’r buddugoliaethau bythgofiadwy yn erbyn Gwlad Belg, llwyddodd y cyn-amddiffynnwr i greu hanes wrth wyrdroi ffawd ei wlad ar y cae ac oddi arno. Gan osod safon newydd fel y rheolwr mwyaf llwyddiannus yn hanes y tîm cenedlaethol, mae’r hyn a gyflawnodd Coleman yn fwy trawiadol fyth wrth i amser fynd heibio ers yr haf bythgofiadwy hwnnw yn Ffrainc. Er hynny, roedd dechrau’r stori yn wahanol iawn, heb unrhyw awgrym o’r llwyddiant a oedd ar droed.

Roedd hwn yn gyfnod anodd i Gymru. Dim ond chwe mis ar ôl marwolaeth Gary Speed, mae’n anodd dirnad sut wnaeth y trasiedi personol hwnnw effeithio ar y garfan ifanc o chwaraewyr. Roedd hyn yn llawer mwy na phêl-droed, a byddai dychwelyd yn ôl i’r gwersyll rhyngwladol ym mis Mai 2012 heb y rheolwr a oedd yn dechrau datblygu dyfodol disglair yn dilyn blynyddoedd o rwystredigaeth a siom yn profi emosiynau'r bobl fwyaf caled. Camodd Coleman i mewn i sefyllfa anodd, a byddai pob un o’i benderfyniadau yn cael eu beirniadu yn erbyn y rheiny a wnaed gan Speed. Dim ond yn hwyrach y byddai’n gwneud pethau ei ffordd ei hun, ond byddai hyd yn oed gwneud y peth iawn yn teimlo’n anghywir wrth iddo barhau i alaru am ei gyfaill agos.

Daeth gêm ryngwladol gyfeillgar yn erbyn Mecsico yn Stadiwm MetLife yn Efrog Newydd i nodi dechreuad swyddogol Coleman wrth y llyw fel rheolwr y tîm cenedlaethol. Doedd dim Gareth Bale, ond roedd Aaron Ramsey yn chwarae yn ei safle cyfarwydd yng nghanol y cae, tra bo Craig Bellamy yn ymosod ochr yn ochr â Steve Morison a Hal Robson-Kanu. Ond sgoriodd Aldo de Nigris ddwywaith gyda gôl ym mhob hanner a hawlio buddugoliaeth 2-0 i Fecsico. Doedd y canlyniad ddim wir o bwys, ac er y byddai Coleman wedi hoffi gweld mwy gan ei dîm o ran perfformiad, does dim modd tanbrisio emosiwn yr achlysur ar adeg mor fregus i’r rheiny a oedd yn ymwneud â’r garfan.

Ond byddai gallu Coleman i ymgymryd â her yng nghanol helbul yn gweithio’n dda iddo wrth iddo siapio ei dîm dros y flwyddyn nesaf. Llwyddodd y tîm i gyrraedd Ewro 2016, a byddai momentwm canlyniadau a pherfformiadau yn parhau trwy’r twrnamaint wrth i Gymru gyrraedd yr uchelfannau yn ystod y twrnamaint yn Ffrainc. Roedd yr atgof o Speed yn aros gyda Coleman a’i chwaraewyr drwy gydol y llwyddiant, ond roedd yr emosiynau amrwd a brofwyd yn ystod y gêm gyntaf honno yn Efrog Newydd fyd ar wahân i’r gorfoledd a’r dathliadau a ddaeth yn y blynyddoedd i ddilyn.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×