FC CymrU

Chris Gunter ar drothwy carreg filltir a hanner

Mae'n anodd credu bod Ewro 2016 bron i bum mlynedd yn ôl. Yn naturiol, mae’r cof yn crynhoi’r holl brofiad yn llond llaw o luniau dathliadol, sy'n dwyn i gof yn bennaf fuddugoliaethau dros Slofacia, Rwsia, Gogledd Iwerddon a Gwlad Belg, yn ogystal â’r Wal Goch, yr anthem yn Bordeaux, a'r gorfoledd o gyrraedd y rownd gynderfynol yn groes i ddisgwyliadau.

Fodd bynnag, mae delwedd arall sy'n cynrychioli ysbryd a’r agwedd ‘Gyda'n Gilydd. Yn Gryfach’ a fu’n rhan mor allweddol o’r llwyddiant hwnnw, ac fe ddaw’r ddelwedd honno o un o bwyntiau mwyaf digalon y twrnamaint. Roedd yn foment a ddaeth â’r chwaraewyr a’r cefnogwyr ynghyd, ac a’i gwnaeth yn amlwg i weddill Ewrop y cysylltiad cryf rhyngddyn nhw trwy gydol yr haf cofiadwy hwnnw yn Ffrainc.

Ar ôl colli 2-1 yn erbyn Lloegr yn Lens, trodd Chris Gunter i wynebu’r Wal Goch a gwneud ei ystum ‘pennau i fyny' enwog. Yn fuan iawn, trodd un weithred syml y siom a’r rhwystredigaeth o ildio gôl mor hwyr yn y gêm yn ysbryd penderfynol i sicrhau na fyddai’r twrnamaint yn dod i ben i Gymru. Roedd cyrraedd y gemau knockout yn parhau o fewn gafael, a daeth perfformiad cryf a buddugoliaeth 3-0 yn y gêm grŵp olaf yn erbyn Rwsia. Mae’r gweddill, wrth gwrs, yn hanes.

Chwaraeodd Gunter bob munud ym mhob un o’r chwe gêm yn EWRO 2016. Ag yntau’n gefnwr dibynadwy a chyson, sefydlodd Gunter ei hun fel un o’r chwaraewyr mwyaf blaenllaw yng ngharfan Chris Coleman, a chafodd ei enwi’n Chwaraewr y Flwyddyn CBDC yn 2017. Cafodd ei ddatblygu’n gyflym trwy’r rhengoedd canolradd gan John Toshack, a chwaraeodd ei gêm gyntaf ag yntau’n ddim ond 17 oed ym mis Mai 2007. Mae Gunter bellach ar fin ennill ei ganfed cap i Gymru, y chwaraewr gwrywaidd cyntaf yn hanes y tîm cenedlaethol i wneud hynny.

O dan arweiniad Toshack, Gary Speed, Coleman a Ryan Giggs, mae Gunter wedi bod yn rhan annatod o garfan Cymru trwy gyfnodau o lwyddiant a methiant, ac mae ei brofiad a’i bersonoliaeth poblogaidd o fewn y grŵp wedi ei wneud yn ffigwr hanfodol wrth symud ymlaen o’r cyfnodau heriol i’r cyfnodau o lwyddiant. Er iddo wynebu cyfnodau o rwystredigaeth bersonol yn deillio o’r ansicrwydd am ei yrfa clwb, mae Gunter wedi parhau’n ymrwymedig i'w wlad.

Mae Gunter yn dipyn o arwr ymhlith aelodau’r Wal Goch, a bu’n gapten ar y tîm yn erbyn Albania ym mis Tachwedd 2018 pan gurodd y record ymddangosiadau gyda chap rhif 93. Mae ei berthynas â'r cefnogwyr wedi parhau'n gryf trwy gydol ei yrfa ryngwladol, trwy uchafbwyntiau ac isafbwyntiau'r 14 mlynedd diwethaf. Fodd bynnag, mae Gunter yn dal i aros i gael dathlu ei gôl gyntaf dros ei wlad, ond ar ôl sgorio dros Charlton Athletic y tymor hwn, mae unrhyw beth yn bosibl!

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×