CARFAN CYMRU

LLWYDDIANT YNG NGHYNGHRAIR CENHEDLOEDD UEFA

Hir yw pob ymaros; a dychwelodd pêl-droed rhyngwladol, o’r diwedd, ym mis Medi 2020 wrth i Gymru ail-gydio yng Nghynghrair Cenhedloedd UEFA yn Helsinki.

 hwythau’n wynebu’r Ffindir, Bwlgaria a Gweriniaeth Iwerddon yng Nghynghrair B4, roedd carfan Ryan Giggs yn benderfynol o fynd gam ymhellach y tro hwn ar ôl colli allan ar ddyrchafiad o drwch blewyn pan gynhaliwyd y gystadleuaeth am y tro cyntaf erioed. Yn anffodus, oherwydd y pandemig, roedd yn rhaid i'r garfan chwarae heb gefnogaeth y Wal Goch.

Dechreuodd ymgyrch Cymru yn erbyn y Ffindir yn eu gêm gyntaf ers mis Tachwedd 2019. Bryd hynny, roedd buddugoliaeth 2-0 yn erbyn Hwngari yng Nghaerdydd yn ddigon i sicrhau lle i’r tîm yn Ewro 2020. Y tro hwn, Kieffer Moore oedd arwr y gêm wedi iddo fanteisio ar groesiad gan Daniel James i sgorio yn y 10 munud olaf ym mhrifddinas y Ffindir. Ac fel arfer, roedd gan y rheolwr un llygad ar y dyfodol, a’r ornest yn gyfle cyntaf gwych i Dylan Levitt, Neco Williams a Ben Cabango.

Ond nid oedd ymddangos am y tro cyntaf ar lefel ryngwladol yn ddigon i Williams, ac ychydig ddyddiau yn ddiweddarach sgoriodd y chwaraewr talentog yr unig gôl yn erbyn Bwlgaria yng Nghaerdydd. Trodd Neco groesiad gan Jonny Williams yn beniad, a hynny’n hwyr iawn yn y gêm, gan roi i Gymru’r dechrau perffaith i’r ymgyrch. “Doedd hi ddim yn hawdd heddiw,” meddai Giggs ar ôl yr ornest. “Ond mae Neco wedi dod ag egni newydd i’r garfan, ac rydw i wrth fy modd ei fod wedi sgorio.”

Dychwelodd Aaron Ramsey i chwarae ar ôl ei anaf, ac roedd yn gapten ar y garfan yn Nulyn y mis canlynol. Ond doedd presenoldeb y dewin o Juventus ddim hyd yn oed yn ddigon i gael dylanwad positif ar gêm ddifflach a ddaeth i ben yn ddi-sgôr. Un uchafbwynt serch hynny oedd record lân i Wayne Hennessey ar y diwrnod y llwyddodd i ragori ar record o ymddangosiadau Neville Southall fel gôl-geidwad dros Gymru. Edrychai’n debyg mai canlyniad tebyg fyddai yn Sofia rai dyddiau’n ddiweddarach, cyn i Jonny Williams sgorio’i gôl ryngwladol gyntaf yn hwyr yn y gêm i sicrhau buddugoliaeth werthfawr i’w dîm. Yn anffodus, daeth anaf Hennessey â’i ymgyrch i ben.

“Roedd yn foment anhygoel,” esboniodd Williams. “Rydw i wedi meddwl erioed, tybed a fydda i’n sgorio? A dyma ni. Roedd y tîm yn gwybod pe bydden ni’n dal ati y byddai buddugoliaeth yn dod. Dyna ddigwyddodd, ac mae pawb yn hapus. Roedd y bechgyn yn y cefn yn wych, ac os allwn ni gadw record lân, gallwn ni ennill mwy o gemau. Roedd wastad yn nod i orffen ar frig y grŵp, ac rydyn ni wedi rhoi cyfle gwych i ni'n hunain nawr.”

Gyda dwy gêm gartref yn weddill ym mis Tachwedd, gwnaeth Cymru y mwyaf o’u sefyllfa gref ar frig y grŵp, gan sicrhau buddugoliaeth 1-0 yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon, a hynny diolch i gôl David Brooks. Gyda Rob Page wrth y llyw dros dro, parhau a wnaeth momentwm y fuddugoliaeth wrth i’r garfan drechu’r Ffindir 3-1, gyda chwarae hyderus ar y diwrnod olaf. Llwyddodd Harry Wilson, Daniel James a Kieffer Moore i daro’r targed, a thîm Cymru yn parhau heb eu trechu. Pan fydd y gystadleuaeth yn dychwelyd y flwyddyn nesaf, bydd y tîm yn canfod eu hunain yn nhabl uchaf Cynghrair A.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×