FC CYMRU – RHIFYN AMERICA

PENCAMPWR CWPAN Y BYD YN CYRRAEDD BANGOR

Mae’r delweddau o’r Ariannin yn dathlu llwyddiant yng Nghwpan y Byd FIFA 1986 yn Estadio Azteca yn Ninas Mecsico mor bell oddi wrth Nantporth a chartref Dinas Bangor ar gulfor Afon Menai ag y gallwch chi ei ddychmygu.

Er hynny, mae Pedro Pasculli yn un dyn sydd wedi profi’r ddau yn ystod ei yrfa ryngwladol fel chwaraewr a rheolwr, a daeth y cyn bencampwr Cwpan y Byd a oedd yn gyfaill i’r arwr arall o’r Ariannin, y diweddar Diego Maradona, i ogledd-orllewin Cymru ym mis Hydref 2019.

Er i Pasculli dreulio y rhan fwyaf o’i yrfa chwarae gyda Argentinos Juniors yn ei wlad enedigol a thîm Lecce yn yr Eidal, mae ei yrfa fel rheolwr wedi arwain ato’n teithio llawer mwy. Yn ogystal â chymryd yr awenau gyda thîm cenedlaethol Uganda a thîm Dinamo Tirana yn Albania, mae Pasculli wedi treulio bron i 20 mlynedd yn hyfforddi yng nghynghreiriau isaf system byramid yr Eidal. Ond daeth cysylltiad annhebygol ag ef at sylw Dinas Bangor, ac o ganlyniad etifeddodd y gêm ddomestig yng Nghymru ei enillydd Cwpan y Byd cyntaf erioed.

Roedd Franceso Serafino yn un o blith nifer a gafodd eu denu o dramor wrth i gyfnod newydd ddechrau i Ddinas Bangor ychydig o flynyddoedd yn ôl. Er nad oedd y Serafino ifanc yn adnabyddus iawn, dechreuodd ei dad Domenico ddangos diddordeb yn y clwb gan arwain consortiwm a fyddai’n cymryd rheolaeth dros fusnes yn Nantporth yn y pen draw. Ac yntau’n gerddor proffesiynol a oedd wedi treulio y rhan fwyaf o’i fywyd yn yr Ariannin, daeth cysylltiadau Domenico Serafino ag ef i gysylltiad â Pasculli yn y lleoliad mwyaf annhebygol.

Gyda’r pandemig yn amharu ar ei dymor cyntaf, methodd Dinas Bangor ag ennill dyrchafiad o JD Cymru North i JD Cymru Premier. Cafodd Pasculli ei ddisodli yn y dugout gan ei gyd-Archentwr a chyn-gapten y tîm ieuenctid rhyngwladol Hugo Colace, gyda phencampwr Cwpan y Byd yn cymryd rôl Ysgrifennydd Technegol. Fodd bynnag, tra bo Dinas Bangor yn un nodwedd arall ar ei CV, y fraint o godi’r wobr fwyaf gwerthfawr yn y byd a fydd yn parhau i ddiffinio gyrfa Pasculli.

“Roedd y teimlad o afael yng Nghwpan y Byd fel cyffwrdd yr awyr â’ch llaw,” eglurodd Pasculli i’r Guardian ar ôl cyrraedd Dinas Bangor. Er iddo fod ar y fainc yn rownd derfynol Cwpan y Byd 1986, fe sgoriodd y gôl dyngedfennol yn erbyn Uruguay yn y fuddugoliaeth yn rownd yr 16 i dîm Carlos Bilardo. “Roedden ni’n grŵp mor agos, ac rydyn ni dal i gadw mewn cysylltiad gyda’n gilydd heddiw,” ychwanegodd. “Mae gennym ni grŵp WhatsApp o’r enw ‘Campeones 86’ rydyn ni’n ei ddefnyddio trwy’r amser.”

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×