GOLWG AR Y GWRTHWYNEBWYR

DYDDIAU EURAIDD MECSICO

Roedd ymhell dros 100,000 o gefnogwyr yn yr Estadio Azteca yn Ninas Mecsico yn ystod rowndiau terfynol Cwpan y Byd FIFA ym 1970 a 1986. Mae’r stadiwm fel crochan goncrit wedi'i hadeiladu dros 7,000 troedfedd uwch lefel y môr, a thrwy hanes bu’n dyst i rai o'r atgofion mwyaf cofiadwy yn hanes Cwpan y Byd.

Gyda’r gefnogaeth gartref yn uchel ac yn angerddol, nid yw’n syndod bod Mecsico wedi sicrhau eu safleoedd gorau erioed yn y gystadleuaeth ar y ddau achlysur y cynhaliwyd y rowndiau terfynol ym Mecsico, gyda’r tîm yn cyrraedd rownd yr wyth olaf ddwywaith.

Yn eu chwe ymddangosiad blaenorol yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd, nid oedd Mecsico wedi llwyddo i fynd ymhellach na’r gemau grŵp nes iddynt gynnal y twrnamaint am y tro cyntaf ym 1970. Dim ond un fuddugoliaeth a sicrhaodd y tîm mewn 17 ymgais, sef buddugoliaeth 3-1 yn erbyn Tsiecoslofacia mewn gêm grŵp ddibwys ym 1962 pan oedd eu gwrthwynebwyr eisoes wedi cymhwyso ar gyfer y cam nesaf. A heb golli’r cyfle i dynnu sylw at gysylltiad â Chymru; enillodd Mecsico eu pwynt cyntaf erioed yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd mewn gêm gyfartal 1-1 yn erbyn tîm Jimmy Murphy ym 1958.

Ond daeth diwedd i’r siom ym 1970, a gyda chefnogaeth frwd y dorf yn Ninas Mecsico, sicrhaodd y tîm fuddugoliaeth 4-0 dros El Salvador a buddugoliaeth 1-0 dros Wlad Belg, gan adeiladu ar eu gêm gyfartal agoriadol 0-0 yn erbyn yr Undeb Sofietaidd. Â’r tîm heb eu trechu a heb ildio’r un gôl, byddai'r rheolwr Raúl Cárdenas yn falch o'r chwarae amddiffynnol a oedd yn ymdebygu i’w yrfa ei hun fel amddiffynnwr canol cae gyda'r tîm cenedlaethol. Roedd Cárdenas ei hun wedi chwarae mewn tair rownd derfynol Cwpan y Byd, a chwaraeodd yn y fuddugoliaeth dros Tsiecoslofacia ym 1962.

 

Fodd bynnag, cafodd y freuddwyd ei chwalu yn rownd yr wyth olaf wrth i dîm Mecsico golli 4-1 yn erbyn enillwyr y gystadleuaeth yn y pen draw, yr Eidal, gyda Luigi Riva yn sgorio dwy gôl. Gyda’r gêm hon yn cael ei chynnal yn yr Estadio Nemesio Díez yn Toluca, roedd llai na 30,000 o gefnogwyr yn bresennol i wylio Mecsico yn cael eu trechu. Ar ôl methu â chymhwyso ar gyfer y rowndiau terfynol ym 1974 a 1982, a chael eu trechu tair gwaith yn y gemau grŵp ym 1978, ni lwyddodd y tîm i hawlio buddugoliaeth arall yng Nghwpan y Byd nes iddynt gynnal y twrnamaint unwaith eto ym 1986.

Roedd torf enfawr yn yr Estadio Azteca i wylio Fernando Quirarte a’r arwr Hugo Sánchez yn sgorio yn y fuddugoliaeth agoriadol 2-1 yn erbyn Gwlad Belg, cyn iddynt ddod yn gyfartal â Pharaguay mewn gêm ddi-sgôr rai dyddiau’n ddiweddarach. Roedd dathlu i fod eto yn y gêm grŵp olaf wrth i gôl gan Quirarte ennill buddugoliaeth 1-0 i dîm Mecsico dros Irac. O dan arweiniad craff y rheolwr o Iwgoslafia, Bora Milutinović, aeth Mecsico ymlaen i ennill y grŵp.

Wedi hynny, sicrhaodd gôl yr un gan Manuel Negrete a Raúl Servín fuddugoliaeth gyfforddus 2-0 yn erbyn Bwlgaria, ond siom a ddilynodd yn rownd yr wyth olaf wrth i Orllewin yr Almaen gyrraedd y rownd derfynol trwy giciau o’r smotyn ar ôl i’r gêm orffen yn gyfartal ac yn ddi-sgôr yn San Nicolás. Er i dîm Mecsico fethu â chyrraedd y rowndiau terfynol yn 1990, mae'r tîm wedi cymhwyso ar gyfer pob Cwpan y Byd ers hynny, yn ogystal â mynd yn bellach na'r gemau grŵp ar saith achlysur yn olynol hefyd. Ond maen nhw eto i ail-fyw llwyddiannau rowndiau’r wyth olaf ym 1970 a 1986.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×