MECSICO
Amddiffynnwr cadarn a ymunodd â Celta Vigo o glwb Santos Laguna yn y Liga MX yn 2018, gan lofnodi cytundeb pum mlynedd gyda’r tîm o Sbaen.
Mae’r chwaraewr yn ffrwyth llafur system ieuenctid Cruz Azul, a bu’n cynrychioli Mecsico ar lefelau dan 20 a 23. Hawliodd ei gap cyntaf i’r tîm cyntaf ym mis Gorffennaf 2011. Er iddo sgorio ar ei ymddangosiad rhyngwladol cyntaf mewn buddugoliaeth 2-1 yn erbyn Chile, ni chwaraeodd i’r tîm cenedlaethol eto tan 2016. Ond mae ei berfformiadau ers hynny bellach wedi ennill enw iddo fel ffigwr pwysig yn y garfan.