FC CYMRU – RHIFYN AMERICA

COFIO CYMRU YN CAEL Y GORAU O FRASIL

Mae Brasil yn hawlio llawer o’r lle yn hanes pêl-droed. O Pelé a Garrincha i Ronaldo a Neymar, mae’r ddelwedd ohonynt wedi’i chlymu’n dynn â llwyddiant a bri.

O’r holl liwiau a rhyddid y cefnogwyr brwd sy’n dilyn y Seleção gydag ymroddiad crefyddol i steil samba ffrydiol y chwarae sydd wedi bod yn nodwedd o’u llwyddiant cyson a pharhaus ar lwyfan y byd, mae Brasil yn ymgorffori popeth sy’n dda ac yn wych am y gêm yn fyd-eang. Fodd bynnag, ar un nos Fercher benodol yng Nghaerdydd yn ôl ym mis Medi 1991, sgoriodd Dean Saunders yr unig gôl a fyddai’n rhoi i Gymru ei hunig fuddugoliaeth dros ei gwrthwynebwyr disglair.

Ar ôl llwyddo i drechu pencampwyr y byd, yr Almaen, mewn gêm ragbrofol enwog ar gyfer yr Ewros ym Mharc yr Arfau Caerdydd dim ond dri mis yn gynharach, roedd carfan Terry Yorath yn llawn hyder ar gyfer y gêm gyfeillgar hon. Ymhlith y tîm a oedd yn dechrau i’r rheolwr Ernesto Paulo oedd y gôl-geidwad Taffarel, Cafu, Bebeto a’r capten Careca, ac ymhlith tîm Yorath roedd Mark Aizelwood, Andy Melville a Colin Pascoe. Yn y cyfamser, daeth Gavin Maguire ymlaen yn lle Kevin Ratcliffe yn eiliadau olaf y fuddugoliaeth i ennill ei gap olaf ond un i Gymru.

Er bod y stadiwm dan ei sang yn y fuddugoliaeth yn erbyn yr Almaen, dim ond 20,000 o gefnogwyr a ddychwelodd i Barc yr Arfau ar gyfer y gêm gyfeillgar hon. Gan sgorio unig gôl y gêm yn yr ail hanner, byddai’n un o’r achlysuron hynny a fyddai’n diffinio gyrfa Saunders o 75 o gemau i’w wlad, lle sgoriodd 22 o goliau yn lliwiau Cymru. Ar y pryd, roedd Brasil yn cael ei ystyried yn dîm a oedd yn mynd trwy gyfnod o drawsnewid, ac aethant ymlaen i godi Cwpan y Byd ym 1994, tra bod tîm Yorath wedi methu â chymhwyso, gyda cholled yn erbyn Rwmania yn yr un stadiwm ddwy flynedd yn ddiweddarach yn torri calonnau’r Cymry.

Un o’r gemau mwyaf enwog rhwng y ddwy wlad oedd pan ddaethant benben am y tro cyntaf erioed yn Sweden wrth i un gôl yn unig gan y Pelé ifanc yn ystod haf 1958 chwalu breuddwydion Cwpan y Byd Cymru yn rownd yr wyth olaf. Hawliodd Brasil fuddugoliaethau pellach cyn gêm gyfartal 1-1 ym Mharc Ninian ym 1983 gyda Bryan Flynn yn taro’r targed i dîm Mike England. Ond mae tair buddugoliaeth i Frasil wedi cadarnhau mae o’u plaid nhw mae’r fantais wedi bod ers y fuddugoliaeth enwog honno ym 1991, a gôl Saunders yw’r gôl olaf i Gymru ei sgorio yn erbyn eu gwrthwynebwyr enwog.

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×